Y Frenhines yn anrhydeddu Sam Warburton a Helena Jones

  • Cyhoeddwyd
Sam Warburton

Mae chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod, Sam Warburton wedi ei gynnwys ar restr anrhydeddau'r Frenhines eleni.

Yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig mae Helena Jones o Aberhonddu, gafodd gryn sylw am ei pherfformiad yng nghystadleuaeth llefaru Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016.

Hefyd ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd mae cyn-ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, a'r Aelod Cynulliad Ceidwadol, David Melding.

Yn ogystal mae swyddogion heddlu, gweithwyr iechyd ac academyddion o dros Gymru wedi eu hanrhydeddu.

Anrhydeddu Warburton

Bydd Warburton, gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, yn derbyn yr OBE am ei wasanaeth i'r byd rygbi.

Mewn neges ar Twitter dywedodd ei fod yn teimlo "braint a balchder mawr" o dderbyn yr anrhydedd, a'i fod yn "binacl ar ei yrfa".

Mae'r blaenasgellwr y Gleision wedi arwain y Llewod ar ddwy daith, i Awstralia yn 2013 ac i Seland Newydd eleni.

Mae hefyd wedi arwain Cymru mewn 48 o gemau, ac ennill 74 o gapiau dros ei wlad.

Disgrifiad,

Helena Jones, un o gystadleuwyr hynaf yr Eisteddfod

Mae Helena Jones yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i bobl ifanc a'r gymuned.

I lawer bydd hi'n fwy adnabyddus fel y ddynes 99 oed a fu'n cystadlu ar y llefaru unigol dros 16 oed yn Eisteddfod Y Fenni.

Dysgodd Helena, sydd bellach yn 101 oed, y Gymraeg yn Sefydliad y Merched yn Aberhonddu cyn gwneud arholiad yn y Gymraeg 10 mlynedd yn ôl.

Bydd hi'n derbyn anrhydedd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, y BEM, am ei chyfraniad.

Ffynhonnell y llun, Cheryl Gillan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cheryl Gillan yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i wleidyddiaeth

Yn cael ei anrhydeddu am gyfraniad i fyd chwaraeon mae Jonathan Morgan, cyn-brif weithredwr Anabledd Cymru, sy'n derbyn yr OBE.

Bydd Alan Davis, hyfforddwr clwb seiclo y Maindy Flyers yn y brifddinas, yn derbyn yr MBE.

Mae Mr Davies wedi hyfforddi'r pencampwyr Olympaidd Owain Doull ac Elinor Barker.

Mae nifer wedi eu hanrhydeddu eleni am gyfraniad i fyd iechyd.

Yn eu plith mae Michael Anthony Giannasi, Cadeirydd y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, a Dr Rosemary Fox, Cyfarwyddwr Rhaglenni Sgrinio y GIG yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Melding yn arfer bod yn ddirprwy lywydd y Cynulliad

Bydd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan yn derbyn y DBE am ei chyfraniad i wleidyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus, tra bod yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, David Melding yn derbyn y CBE.

Ym myd y celfyddydau mae anrhydeddau i Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli ac i Revel Guest, cadeirydd yr ŵyl.

Mae David Arwyn Watkins o'r Trallwng, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Cambrian yn derbyn yr OBE am ei gyfraniad i addysg ac hyfforddiant yng Nghymru.

Hefyd bydd David Edward Gravell o Gydweli yn derbyn y BEM am ei wasanaethau i elusen, chwaraeon ac addysg yng Nghymru.

'Yn falch iawn'

Un arall sy'n derbyn y BEM yw Sheila Lynette Thomas o Aberhonddu, a hynny am ei chyfraniad i gerddoriaeth, addysg a'r iaith Gymraeg ym Mhowys.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei bod "wrth ei bodd".

Ychwanegodd: "Dwi'n amlwg yn falch iawn a ddim yn siŵr iawn pam - ond a ninnau'n croesawu 'Steddfod yr Urdd i Lanelwedd flwyddyn nesaf rwyf ar bob pwyllgor o dan haul.

"Mae Aberhonddu yn rhan o'r dalgylch a 'wi'n credu bod bodloni i fod ar amrywiol bwyllgorau wedi cyfrannu at yr anrhydedd.

"Dwi wedi bod yn athrawes yn yr ardal ac yn athrawes fro ac wedi bod yn gysylltiedig â'r côr meibion am oddeutu 40 mlynedd - yn gyntaf fel cyfeilyddes ac yna fel arweinydd.

"'Wi dal i arwain y côr ac yn joio. Mae'n dalcen caled gwneud pethau Cymraeg yn yr ardal yma ond dyfal donc a dyrr y garreg."

'Cydnabod a rhoi diolch'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns: "Rwy'n falch iawn i gydnabod a rhoi diolch i'r rheini sydd yn gwasanaethu eu cymunedau gydag ymroddiad anhunanol er lles pobl eraill."

"Dylai'r rhai a enwebwyd ar gyfer y wobr hon fod yn hynod o falch o'u cyflawniadau, ac estynnaf fy niolch a'm llongyfarchiadau iddynt i gyd."