'Mynydd i'w ddringo' ar gyfleoedd astudio wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Gall fod "mynydd i'w ddringo" i sicrhau cyfleoedd i astudio yn Ewrop ar ôl Brexit, yn ôl cyd-sylfaenydd Erasmus.
Fe wnaeth Erasmus, cynllun astudio dramor sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, ddathlu 30 mlynedd o fodolaeth yn gynharach yn y mis.
Dywedodd y cyd-sylfaenydd, Dr Hywel Ceri Jones, y byddai "her sylweddol" pe bai Brexit yn atal mynediad y DU i'r cynllun.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn pwyso am "sicrwydd" am barhau yn y cynllun.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais i ymateb.
Mae miliynau o fyfyrwyr dros Ewrop wedi cymryd rhan yng nghynllun Erasmus ers ei ddechrau yn 1987.
Mae'r cynllun yn galluogi i fyfyrwyr astudio mewn canolfannau mewn dros 30 o wledydd.
Yn 2016, cafodd 2,903 o bobl o Gymru gefnogaeth ariannol i fynd dramor, cynnydd ers 2014, gyda 2,235 o'r rheiny yn fyfyrwyr.
Ond mae ei ddyfodol yn y DU yn ansicr nes i drafodaethau Brexit ddod i ben.
Cefnogi 'mewn egwyddor'
Dywedodd Dr Jones, sy'n gyn-gyfarwyddwr cyffredinol o'r Comisiwn Ewropeaidd, nad yw graddfa maint Erasmus yn cael ei "werthfawrogi", a'i fod yn "hollbwysig" bod llywodraethau Cymru a'r DU yn ystyried hynny er mwyn "gwella safon ein haddysg ac hyfforddiant yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Bydd gan awdurdodau Cymreig fynydd enfawr i'w ddringo os ydyn nhw'n gorfod cynnig cyfleoedd yn lle'r ystod o bartneriaethau Ewropeaidd a rhyngwladol i helpu i sicrhau bod ein pobl ifanc ar bob lefel yn cael yr hyn sydd ei angen i lwyddo dros y byd."
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi "mewn egwyddor" i barhau gydag Erasmus, ac er ei fod eisiau cefnogi'r ymdrechion, roedden nhw "ar wahan o'r hyn mae Llywodraeth y DU yn ei wneud".
"Peidiwch disgyn i'r trap o feddwl mai am arian mae hyn, mae'n ymwneud â phensaerniaeth y cynllun...trefniant a rhwydwaith a sgyrsiau ehangach am drawsnewid addysg mewn gwleydd gwahanol all ysbrydoli ei gilydd, ac mae Erasmus yn rhan ohono."
Mae Norwy a'r Swistir yn rhan o Erasmus, er nad ydyn nhw'n rhan o'r UE, a hynny oherwydd cytundebau arbennig.
Mae'r corff sy'n cysylltu sefydliadau academaidd sy'n rhan o Erasmus, Universities UK, yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau aelodaeth llawn o Erasmus er mwyn diogelu gallu myfyrwyr ac academwyr i symud yn rhydd, beth bynnag yw natur rheolau mudo wedi Brexit.
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n gwarantu cytundebau grant Erasmus+ gafodd eu harwyddo pan oedd y DU yn rhan o'r UE, ond bydd grantiau'r dyfodol yn dibynnu ar drafodaethau Brexit.
'Incwm isel'
Un sydd wedi manteisio ar gyfleoedd Erasmus yw Rowan McCaffery, aeth i astudio newyddiaduraeth ryngwladol yn Chuhai yn China yn 2017.
Nid oedd wedi byw i ffwrdd o gartref cyn hynny, a dywedodd: "Ro'n i'n ansicr iawn am adael adref am gymaint o amser.
"Buaswn i wedi caru teithio beth bynnag ond fel myfyriwr ar incwm isel ni fyddai wedi digwydd am amser hir.
"Buaswn i wedi gorfod gweithio am gyfnod hir i wneud i hynny ddigwydd, felly fe wnaeth yr arian helpu."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu papur gwyn Brexit yn "gosod yn glir" eu safbwynt y dylai Cymru barhau'n rhan o gynlluniau fel Erasmus+.
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi "pwyso am sicrwydd y bydd lefelau presennol o fuddsoddiad a chysylltiad â chynlluniau fel rhain yn parhau ochr yn ochr â hawl i ymchwilwyr symud yn rhydd".
Dywedodd bod "gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi yn bwysig iawn i Gymru" ac nad ydy'r llywodraeth eisiau gweld prifysgolion a busnesau yn methu allan ar gyllid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2016