Lluniau: Llifogydd yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm nos Fercher 22 Tachwedd wedi achosi llifogydd a phroblemau ar rai o ffyrdd y Gogledd dros nos. Dyma olwg ar y sefyllfa mewn lluniau:


Y gylchfan ger Tesco, Bangor braidd yn wlyb neithiwr.


Llyn Alaw ger Llannerchymedd, Ynys Môn yn gorlifo dros yr argae.


Dechrau clirio yn y tywyllwch wedi tirlithriad yn y Felinheli.


Yr afon yn uchel ac yn ffyrnig ym Meddgelert neithiwr.


Mae'r llanast yn y Felinheli yn fwy amlwg yng ngolau dydd.


Mae cors Malltraeth yn Ynys Môn wedi gorlifo, ond dyw'r dilyw ddim wedi amharu ar yr A55 hyd yma.


Er gwaethaf y golau gwyrdd, roedd yn syniad peidio mynd yn eich blaen yn Llangefni neithiwr


Roedd afon Cefni yn Llangefni'n wyllt iawn neithiwr.


Doedd hi ddm yn syniad da gadael y car dros nos ym maes parcio Cyngor Môn!