Tân ym mhencadlys tîm achub y Bannau yn Nowlais

  • Cyhoeddwyd
The team's three vehicles were damaged in the fireFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tri o gerbydau y tîm achub eu difrodi

Dyw tîm achub mynydd y Bannau ddim yn gallu gweithredu am y tro wedi i dân achosi difrod gwerth £250,000 yn eu pencadlys.

Cafodd y gwasanaethau tân eu galw i'r ganolfan yn Nolwais ger Merthyr nos Sadwrn.

Mae prif gerbyd achub y tîm wedi'i ddifrodi'n llwyr ac mae difrod hefyd i ddau gerbyd 4x4 ac offer arall.

Mae dirprwy arweinydd y tîm Huw Jones yn dweud fod y difrod wedi'i siomi'n fawr.

Mae Tîm Achub Mynydd Canolbarth y Bannau, elusen sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, yn gwasanaethu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ardaloedd yn ne a chanolbarth Cymru.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn credu bod y tân wedi cychwyn yn nghornel dde adeilad sy'n cael ei ddefnyddio i storio cerbydau ac offer.

Fydd y cerbydau na'r offer, ychwanegodd Mr Jones, ddim yn weithredol nes bod modd canfod maint y difrod a allai fod oddeutu £250,000.

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd y Bannau
Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd y Bannau

Dywedodd Mr Jones y bydd yn rhaid i'r tîm, sydd wedi cael blwyddyn brysurach nag erioed, feddwl pa wasanaeth y gallant ei gynnig heb yr holl adnoddau.

"Mae'r effaith y mae'r tân wedi ei gael ar yr hyn y gallwn ei gynnig yn sylweddol. Ry'n eisoes wedi cael cynnig help gan dimau achub eraill ac yn sicr fe fyddwn yn manteisio ar hynny," dywedodd.

"Ry'n yn hynod siomedig. Y peth da am wasanaeth gwirfoddol yw fod pobl yn gwneud y gwaith am eu bod yn dymuno ei wneud.

"Mae pawb yn siomedig ac isel ond mae'n rhaid i ni weld pa wasanaeth y gallwn ei gynnig a thrio adfer yr holl wasanaeth mor fuan â phosib."

Ychwanegodd: "Ry'n yn hynod ddiolchgar i'r cymdogion a wnaeth ymateb wedi iddynt weld mwg yn dod allan o'r adeilad."

Cadarnhaodd hefyd fod y gwasanaeth, na sy'n derbyn cyllid ac sy'n prynu offer gan arian sy'n cael ei roi iddynt, wedi'i yswirio ond fe fydd yna ymdrechion maes o law i godi arian i brynu offer newydd yn lle'r hyn sydd wedi'i ddifrodi.

Mae Gwasanaeth Tân y Gorllewin a'r Canolbarth yn credu bod y tân wedi cynnau'n ddamweiniol.