Anghydfod dros orwario 23% ar gynllun lledu'r A465
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i ledu Ffordd Blaenau'r Cymoedd - yr A465 - rhwng Gilwern a Brynmawr wedi mynd 23% dros ei gyllideb, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae gweinidogion mewn anghydfod gyda'r contractwyr, Costain, am bwy ddylai dalu'r gwahaniaeth.
Eisoes mae oedi i'r dyddiad i gwblhau'r cynllun, ac ni fydd nawr yn agor tan hydref 2019.
Fe ddaw'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn dilyn adolygiad o'r cynllun oedd â chyllideb wreiddiol o £220m.

Mae gwaith ar y ffordd wedi bod yn olygfa gyfarwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Costain wedi canfod bod y cynllun - sy'n golygu lledu'r A465 drwy Geunant Clydach - "yn llawer mwy anodd i'w gyflawni nag oedd wedi'i ragweld" oherwydd y ddaearyddiaeth leol ac amodau tir cymhleth.
Ychwanegodd Mr Skates: "Y rhagolwg ar hyn o bryd yw y bydd y cynllun yn costio 23% yn fwy na'r gyllideb a gafodd ei chadarnhau.
"Rwy'n siomedig iawn, ond mae fy swyddogion yn ceisio rheoli'r gorwario a chanfod ffyrdd o liniaru sefyllfa'r prosiect.
"Fel rhan o'r gwaith yma mae Llywodraeth Cymru mewn anghydfod gyda Costain ar nifer o faterion ynghylch dosraniad risg yn y cytundeb i sicrhau y byddan nhw [Costain] ond yn cael eu talu'r hyn sydd wedi'i gytundebu iddyn nhw.
"Rwy'n deall bod y newyddion yma yn bryder i'r rhai sy'n byw a gweithio yn yr ardal, ac rwy'n ddiolchgar am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r cynllun."
Mae'r BBC wedi gofyn i Costain am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017