Dadl yn y Senedd ar 'scam' insiwleiddio cartrefi

  • Cyhoeddwyd
Wal

Bydd cynllun dadleuol i arbed ynni drwy insiwleiddio cartrefi yn destun dadl yn y Senedd ddydd Mercher.

Mae degau o filoedd o gartrefi yng Nghymru eisoes wedi cael deunydd insiwleiddio wedi'i osod dros y degawd diwethaf, ond mae cannoedd wedi eu gadael gyda thai oer a thamp.

Mae nifer nawr yn wynebu biliau i gael tynnu'r deunydd, ac maen nhw'n dweud nad yw cynllun gwarant oedd i fod i helpu yn addas i'w bwrpas.

Mae AC Llafur Mick Antoniw wedi codi'r mater yn y Cynulliad ar ôl clywed am drafferthion gan ei etholwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r materion hyn" drwy eu cynlluniau - Nest ac Arbed.

'Ddim yn addas'

"Y bwriad yw dangos bod gennym scam enfawr yn digwydd," meddai.

"Dyw tri chwarter o Gymru ddim yn addas ar gyfer CWI (Cavity Wall Insulation) ond dyna'r ardaloedd sy'n cael eu targedu.

"Mae degau o filoedd o bobl wedi cael CWI. Dwi wedi bod yn gweithio ar hyn ers cwpwl o flynyddoedd gydag etholwyr yn Rhydyfelin, ond dyw maint y peth, a maint y twyll heb gael ei ddatgelu'n ddigonol."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mick Antoniw AC yn arwain y drafodaeth

O'r 1.3m o gartrefi yng Nghymru mae gan tua 900,000 waliau dwbl, ac mae tua 50% o'r rheini wedi cael eu hinsiwleiddio naill ai pan gafon nhw'u codi neu ers hynny.

Ond gosod yr insiwleiddio yn ôl-weithredol sy'n achosi problemau, ond er gwaetha' cwynion ac adroddiad i'r Cynulliad, mae'r deunydd yn dal i gael ei gynnig i gartrefi yng Nghymru drwy nifer o gynlluniau arbed ynni.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyllid o £104m i'r rhaglen Cartrefi Cynnes er mwyn cynyddu effeithlonrwydd 25,000 o dai. Mae'r cyllid yn cynnwys gosod CWI.

Mae'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn rhannu'r DU i bedwar parth o'r sychaf i'r gwlypaf.

Mae'r rhan fwyaf o Gymru ym Mharth 4, sef y gwlypaf, ac mae'r corff yn rhybuddio am drafferthion os am ddefnyddio CWI yn y parth hwnnw gan y gallai glaw fynd drwy'r deunydd insiwleiddio o'r wal allanol i'r wal fewnol, ac achosi lleithder yn y cartref.

Bydd y mater yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher, gan gynnwys galwad gan un grŵp ymgyrchu i atal gosod CWI mewn unrhyw eiddo yng Nghymru.

'Ymwybodol o gwynion'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o nifer fechan o gwynion" yn ymwneud â chynlluniau sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth, ond bod mwyafrif y cwynion yn ymwneud â chynlluniau cyflenwyr ynni.

Aeth llefarydd ymlaen i ddweud eu bod "yn cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ein cynlluniau Nest ac Arbed newydd".