Pryder am ariannu prentisiaid wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae pryder am sut y bydd cynllun prentisiaethau Cymru yn cael ei ariannu ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Ond gyda Brexit ar y gorwel, mae na gwestiynu o ble ddaw'r arian yn y dyfodol.
Mae prif weithredwr Colegau Cymru, Iestyn Davies, wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ei fod yn poeni am y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru wedi Brexit, gan fod y cynllun yn dibynnu yn rhannol ar arian yr UE.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn anelu at greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y cynulliad presennol, a'u bod wedi diogelu cyllid hyd at 2021.
Nid oedd Llywodraeth y DU am wneud sylw.
'Marc cwestiwn mawr'
Yn siarad gyda'r Post Cyntaf, dywedodd Iestyn Davies bod "marc cwestiwn mawr" am ariannu'r dyfodol.
Dywedodd: "Ife San Steffan, neu a yw'r arian hynny'n mynd i ddod allan o gyllid Barnett?
"Ma'n bwysig bod San Steffan yn ateb y cwestiwn sut ma' nhw'n mynd i ariannu cynlluniau tebyg i gynlluniau prentisiaethau ar y cyd â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau yng Nghymru."
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad presennol.
Cafodd hynny ei gyhoeddi ym mis chwefror yn eu "cynlluniau ar gyfer cysoni prentisiaethau ac anghenion economi Cymru".
Roedd gostyngiad o 30% yn nifer y prentisiaethau yng Nghyrmu mewn tair blynedd hyd at 2014/15 - o 28,030 yn 2012/13 i 19,505 yn 2014/15.
Ond mae'r ffigyrau diweddaraf sydd ar gael, ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16, yn dangos fod y cyfanswm wedi cynyddu 'nôl i 23,690.
Mae'r cynnydd wedi ei groesawu gan Iestyn Davies o Golegau Cymru: "Yn hanesyddol dyw'r Deyrnas Unedig ddim wedi bod mor dda a rhai gwledydd eraill yn treial cael mwy o brentisiaid mewn i'r system.
"Felly ry'n ni yn ofidus o edrych 'nôl dros y blynyddoedd bod 'na ddirywiad wedi bod.
"Y newyddion da yw, yng Nghymru, am y tro cynta mae'r niferoedd i fyny er bod nifer y bobl ifanc mewn cymdeithas yn mynd i lawr."
Mae Bethan Jenkins yn brentis, sydd wedi cymryd mantais o'r cyfle i ddysgu yn y gweithle gyda Chyfrifwyr Llyr James yng Nghaerfyrddin.
"Os bydden i wedi mynd i'r brifysgol, bydden i 'di hala tair blynedd yn dysgu'r theori, a wedyn bydden i 'di gorfod dysgu am sawl blwyddyn arall i gael yr ochr ymarferol lan.
"Ma' un o'r merched sy'n gweithio 'ma, 'na beth ma' hi wedi neud - mynd i'r brifysgol am dair blynedd, ac wedyn wedi dod i weithio fan hyn.
"Er bod 'da hi'r wybodaeth, does dim ganddi'r profiad o waith o ddydd i ddydd."
'Blaenoriaethau pennaf'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "cynnig 100,000 o brentisiaethau o safon uchel" yn un o'u "blaenoriaethau pennaf".
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym wedi cyflwyno mesurau er mwyn diogelu cyllid i gefnogi ein polisi a rhaglenni prentisiaethau tan 2021.
"Er bod Llywodraeth y DU, ar y cyfan, wedi addo cyllid ar gyfer prosiectau sydd wedi eu cytuno cyn 2020, mae hi'n hanfodol yn y tymor hir bod Llywodraeth y DU yn cynnig cyllid yn lle'r arian sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ar hyd o bryd, fel yr addawyd yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit."
Nid oedd Llywodraeth y DU am wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017