Prentisiaethau: Diffygion yn atal cyfleoedd i bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Apprentice at Airbus in FlintshireFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 45,000 o bobl ifanc yn derbyn prentisiaeth yng Nghymru

Mae nifer y bobl ifanc sy'n derbyn prentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng 6% ers 2015, ac mae diffyg cyngor a gwybodaeth addas ar fai medd arbenigwyr.

Dywedodd Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru Julie James fod yn rhaid gwella'r wybodaeth sydd ar gael i bobl ifanc, a bod angen darparu gwybodaeth mewn ffordd sydd yn berthnasol i'r ganrif hon.

Ymhlith yr argymhellion mae sefydlu ap newydd er mwyn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc sy'n gadael ysgol.

Yn ôl Ms James dyw'r ap presennol ddim yn addas ac fe fydd yn rhaid cael gwared ohono.

Dywedodd: "Mae na ddiffyg cyswllt gyda phobl ifanc, mae hynny yn broblem fawr i ni."

Dywedodd ymgynghorwyr o bartneriaethau sgiliau rhanbarthol Cymru wrth bwyllgor Sgiliau y Cynulliad fod cyngor gyrfaoedd "hen ffasiwn" ac roedd "canfyddiadau wedi eu dyddio" yn atal pobl ifanc rhag gwneud dewisiadau addas ar gyfer eu dyfodol.

Yn ôl yr arbenigwyr, mae yna bryder hefyd am brinder hyfforddwyr dwyieithog i ddarparu prentisiaethau iechyd a gofal yn enwedig yn y "cadarnleoedd Cymraeg".

Ffynhonnell y llun, Senedd live
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Gweindog Sgiliau Julie James mae gwellianau yn cael eu gwneud er mwyn hyrwyddo prentisiaethau

Mae yna ddryswch hefyd ynglŷn â'r drefn darparu prentisiaethau, yn enwedig mewn ardaloedd yn agos at y ffin â Lloegr.

Fe rybuddiwyd hefyd bod angen herio'r canfyddiadau anghywir am brentisiaethau sydd gan athrawon a rhieni.

Gostyngiad o 66%

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae cyllideb Gyrfa Cymru - sydd yn darparu cyngor ar yrfaoedd - wedi cael ei chwtogi yn llym.

Yn 2016-17 roedd gan y gwasanaeth gyllideb o £18m. Eleni mae gan Gyrfa Cymru £6m - gostyngiad o 66%.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau Julie James fod gan y gwasanaeth ddigon o arian ond bod "angen edrych eto ar gyfeirio eu hymdrechion".

"Fydda' i ddim yn hapus tan fod rhiant yn medru darganfod sut i gael prentisiaeth i'w plentyn yr un mor hawdd ac maen nhw'n medru dod o hyd i gwrs gradd mewn seicoleg."