Mwy yn mynd i'r ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

  • Cyhoeddwyd
iselderFfynhonnell y llun, PA

Mae angen rhoi mwy o gymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl cyn iddyn nhw orfod cael eu hanfon i ysbyty meddwl, yn ôl elusen.

Daw hynny wedi i ffigyrau sydd wedi dod i law rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddangos cynnydd o 16% yn nifer y cleifion sydd yn mynd i'r ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yng Nghymru.

Yn 2010/11 cafodd 1,719 o bobl eu derbyn i'r ysbyty, ac erbyn 2015/16 roedd y ffigwr wedi codi i 2,001.

Dywedodd elusen MIND Cymru bod y nifer cynyddol oedd yn mynd i'r ysbyty dan y ddeddf "yn rhywbeth eithaf difrifol".

'Rhywbeth yn eu lle'

"Dwi'n meddwl bod angen meddwl yn galed iawn pam bod hyn yn digwydd," meddai Sara Moseley, cyfarwyddwr MIND Cymru.

"Mae'n arwydd nad ydyn nhw'n cael yr help maen nhw angen ddigon cynnar, a hefyd yn arwydd bod gwlâu wedi cau - ond ar yr un pryd dydy'r ddarpariaeth amgen ddim ar gael iddyn nhw."

Disgrifiad,

Dywedodd Sara Moseley bod "angen i gleifion gael help yn ddigon cynnar"

Er bod nifer y cleifion yn mynd i'r ysbyty wedi cynyddu rhwng 2010/11 a 2015/16, roedd nifer cyfartalog y gwlâu ar gael mewn unedau iechyd meddwl ar draws Cymru wedi gostwng o 1,918.6 i 1,606.3 dros yr un cyfnod.

Fe wnaeth cyfradd y gwlâu hynny oedd wedi eu cymryd aros yn gyson.

"Mae nifer y gwlâu iechyd meddwl wedi bod yn gostwng dros y degawdau nawr. Does neb eisiau mynd yn ôl i'r sefyllfa lle rodd hen asylums a miloedd o bobl yn treulio blynyddoedd dan glo," ychwanegodd Ms Moseley.

"Os ydych chi am gael gwared ar y gwlâu arbenigol ar gyfer pobl sydd angen triniaeth ddwys, mae'n rhaid bod yn sicr bod rhywbeth arall yn eu lle.

"Allwch chi ddim disgwyl cau gwlâu a disgwyl i'r broblem ddiflannu. Mae pobl angen gofal. Mae pobl yn mynd i fod yn sâl.

"Ac mae angen y gofal yna o fewn y gymuned os nad ydy hynny ar gael mewn ward."

Dywedodd Sara Moseley fod angen ystyried newid yn y ddeddfwriaeth, ond hefyd "yn y systemau sy'n cynnal pobl o fewn eu cymunedau".

"Yn bendant mae angen llawer iawn mwy o help ar bobl cyn eu bod nhw'n cyrraedd y pwynt o gael section," meddai.

"Os ydyn ni'n mynd i barhau i gau gwlâu mewn ysbytai, mae angen darpariaeth wahanol effeithlon, amserol."

Rhagor o arian

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth i wasanaethau ddatblygu i fod yn fwy cymunedol eu natur, mae nifer y gwelyau iechyd meddwl wedi lleihau, yn unol â ble mae'r rhan fwyaf o bobl yn ffafrio cael eu gofal.

"Fodd bynnag, bydd cyfran fechan o bobl sydd â phroblem iechyd meddwl angen triniaeth fel cleifion preswyl bob amser.

"Rydyn ni'n parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru, gyda mwy na £629m o gyllid yn cael ei ddarparu yn 2017/18.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu £40m ychwanegol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y ddwy flynedd nesaf."