Arddangosfa i ddathlu hanes Parc Biwt trwy lygaid coeden
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa sy'n edrych ar hanes un o ardaloedd gwyrdd amlycaf Caerdydd yn agor ddydd Sadwrn.
Bwriad prosiect Y Straeon a Adroddent ydy cyflwyno Parc Biwt drwy lygaid coeden gastan hynafol.
Roedd y goeden dan sylw yn y parc am 132 mlynedd cyn i storm ei llorio yn gynharach eleni.
Yn rhan o'r arddangosfa mae cerdd newydd gan Sophie McKeand, Awdur Ieuenctid Cymru, sydd wedi ei seilio ar straeon gan ymwelwyr â'r parc.
"Does dim llawer o bobl yng Nghaerdydd heb stori am Barc Biwt, ond dychmygwch yr hyn allasai coeden a fu yno ers dros ganrif ei ddweud wrthym pe gallai siarad," meddai Victoria Rogers, rheolwr Amgueddfa Stori Caerdydd.
Dywedodd y byddai'r prosiect yn "cydblethu'r straeon hyn nas clywsom o'r blaen" sy'n amrywio o "ben-blwydd Pedwerydd Ardalydd Bute yn 21ain oed i Eisteddfod Genedlaethol 1978, a'r project adfer mwy diweddar".
Mae'r arddangosfa yn rhan o brosiect gan Coed Cadw ac i'w gweld yn Amgueddfa Stori Caerdydd nes 25 Chwefror 2018.