Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Maidenhead

  • Cyhoeddwyd
James JenningsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

James Jennings sgoriodd ail gôl Wrecsam wrth iddo ddychwelyd o anaf

Mae Wrecsam wedi codi yn ôl i'r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol wedi iddyn nhw drechu Maidenhead ar y Cae Ras.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 20 munud, wrth i Chris Holroyd guro'r golwr Carl Pentney.

Fe aeth tasg yr ymwelwyr yn fwy o her ar ôl awr, wedi i'r chwaraewr canol-cae Ryan Upward weld cerdyn coch am dacl uchel.

Dyblwyd mantais y Dreigiau gyda chwarter awr yn weddill pan wnaeth James Jennings rwydo heibio i Pentney.

Mae Wrecsam ar yr un pwyntiau â Sutton United, sy'n aros ar frig y gynghrair ar ôl trechu Eastleigh.