Conwy: Dim casglu biniau pob pedair wythnos am y tro
- Cyhoeddwyd

Mae tua 10,000 o dai yn rhan o brawf casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos yn Sir Conwy
Ni fydd cynlluniau i gasglu biniau sbwriel cyffredinol pob pedair wythnos ar draws Sir Conwy yn cael eu cyflwyno am y tro.
Mae rhan o'r sir yn defnyddio'r system pedair wythnosol ers 2016 fel rhan o gyfnod prawf, ond fydd hwnnw ddim yn cael ei ymestyn nes bod mwy o ymchwil yn cael ei gynnal.
Yng ngweddill y sir, pob tair wythnos mae biniau du'n cael eu casglu.
Yn sgil penderfyniad y cabinet y cyngor ddydd Mawrth i beidio cymeradwyo'r cynlluniau am y tro, does 'na'r un sir yng Nghymru yn casglu biniau sbwriel cyffredinol llai aml na phob tair wythnos.
Does dim dyddiad wedi'i bennu o ran pryd fydd y cynlluniau'n cael eu trafod eto.