Atal cwmni ariannol am gyngor camarweiniol staff dur

  • Cyhoeddwyd
Tata Steel in Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr yn safle Tata ym Mhort Talbot ymysg y rhai sydd wedi eu heffeithio

Mae cwmni ariannol wedi colli'r hawl i roi cyngor pensiwn i weithwyr dur, wedi iddyn nhw ddarparu gwybodaeth gamarweiniol.

Daw hyn wedi i Aelodau Seneddol leisio pryderon fod gweithwyr wedi cael cyngor gan ymgynghorwyr anegwyddorol yn sgil yr ansicrwydd ynghylch Cynllun Pensiwn Dur Prydain.

Mae gan tua 130,000 o aelodau tan 22 Rhagfyr i wneud penderfyniad am eu trefniadau pensiwn.

Mae grwpiau cymorth wedi eu sefydlu i helpu'r rhai sydd wedi cael cyngor camarweiniol.

'Colli £200,000'

Fe aeth Richard Bevan, sy'n gweithio yng ngwaith dur Tata yn Trostre ger Llanelli ers 39 mlynedd, at Celtic Wealth Management, a drosglwyddodd ei fanylion i Active Wealth UK yng nghanolbarth Lloegr.

Daeth ymchwiliad gan y BBC i'r casgliad fod y ddau gwmni rhyngddyn nhw wedi methu â darparu Mr Bevan â'r gwaith papur sylfaenol oedd ei angen i drosglwyddo pensiwn.

Hefyd, fe gynghoron nhw Mr Bevan i fwrw 'mlaen â'r trosglwyddiad, er ei fod wedi cael llythyr gan Ymddiriedolwyr Pensiwn Dur Prydain, oedd yn dweud fod ei bot pensiwn yn debygol o gynyddu petai'n aros o fewn y cynllun.

Mae Mr Bevan yn amcangyfrif ei fod wedi colli bron i £200,000 yn sgil y cyngor hwnnw.

"Dydw i ddim yn hawdd fy nhwyllo, ond yn amlwg mae ymgynghorydd ariannol wedi fy arwain at rywbeth nad oedd yn iawn i fi, a chi'n gwybod, dydy e ddim yn lle da i fod ar hyn o bryd," meddai.

Mae Celtic Wealth Management ac active Wealth UK yn gwadu honiadau Mr Bevan.

'Perygl o gael eu camarwain'

Fodd bynnag, wedi i dystiolaeth a gasglwyd gan y BBC gael ei drosglwyddo i'r Awdurdod Rheoli Ariannol, fe ymyrrodd yr awdurdod a dydy Active Wealth UK ddim bellach yn cael rhoi cyngor ar bensiynau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Rheoli Ariannol fod gweithwyr dur yn arbennig mewn perygl o gael eu camarwain.

"Dyma grŵp o bobl, miloedd o bobl, sydd yn gorfod gwneud penderfyniad un ffordd neu'r llall", dywedodd Megan Butler.

"Mae hynny'n arwain at nifer o gymhlethdodau... mae yna sawl penderfyniad y gallen nhw ei wneud, felly maen nhw'n fregus iawn ar hyn o bryd yn fy marn i."

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Aelodau Seneddol yn craffu ar y modd mae cyngor wedi ei roi i weithwyr dur.

Mae yna bryder cynyddol y gallai hyn effeithio ar gannoedd o weithwyr oherwydd yr ansicrwydd yn ywmenud â Chronfa Bensiwn Dur Prydain, ac y gallai gwerth miloedd o bunnoedd o arbedion fod yn y fantol.