Ombwdsmon: 'Angen helpu pobl i wneud cwynion ar lafar'
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl sydd yn cael trafferth ysgrifennu gael mwy o help wrth wneud cwynion, yn ôl yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dywedodd Nick Bennett ei bod hi'n "ffiwdal" fod ganddo'r gallu i weithredu fel y mynnai gyda chwynion ar lafar.
Ddylai pobl sydd yn methu ag ysgrifennu eu cwynion "ddim gorfod dibynnu ar beth yw fy hwyliau i", meddai wrth ACau.
Ychwanegodd fodd bynnag nad oedd angen rhagor o arian arno i dalu am ragor o gefnogaeth i'r rheiny ô diffyg llythrennedd oedd yn cwyno.
'Oriau yn trawsgrifio'
Mae AC Plaid Cymru, Simon Thomas wedi cyflwyno mesur fyddai'n cynyddu pwerau'r ombwdsmon ac ymestyn ffiniau ei weithgareddau, gan gynnwys dyletswydd i ddelio â chwynion ar lafar.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad ddydd Iau, dywedodd Mr Bennett: "Dwi'n ei gweld y ffordd mae'r ddeddfwriaeth bresennol wedi'i drafftio yn ffiwdal o bosib.
"Ar hyn o bryd dwi'n gallu ystyried cwyn ar lafar os ydw i'n penderfynu ei fod yn briodol.
"Ond mae'n ddrwg gen i, mae gan bobl sydd â thrafferthion llythrennedd hawliau hefyd. Ddylen nhw ddim gorfod dibynnu ar beth yw fy hwyliau i neu unrhyw un arall sydd yn gwneud fy swydd i, os ydyn nhw am benderfynu ei fod yn briodol ai peidio."
Ychwanegodd nad oedd yn ceisio "chwilio am ragor o gwynion", ond fod angen "sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y bobl sydd angen ein gwasanaethau fwyaf".
Dywedodd Mr Bennett fod ei dîm yn treulio "oriau" yn trawsgrifio cwynion oedd yn cael eu cyflwyno ar lafar, ac ar ôl anfon dogfennau yn ôl i'r achwynydd, dim ond "50% oedd yn cael eu dychwelyd".
"Dyw'r trefniadau presennol ddim yn effeithlon ac rydyn ni eisiau sicrhau fod y swyddfa - er gwaethaf y pwysau all ddod o ran cynnydd [yn y cwynion] - yn gwneud popeth allan nhw i helpu'r bobl fwyaf bregus sydd angen gwasanaethau cyhoeddus o safon."
Ychwanegodd: "Mae 'na stigma - [gallai] pobl allai fod wedi cael cam go iawn deimlo eu bod ond yn gallu dod i fy swyddfa i os ydyn nhw'n barod i ysgrifennu.
"Mae angen cael gwared ar yr ofn yna."
Mwy o gwynion
Gofynnodd AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian a oedd risg fod Mr Bennett yn annog "diwylliant o gwyno", gan arwain at sefyllfa anghynaladwy i'w swyddfa.
Dywedodd yr ombwdsmon ei bod hi'n wir fod mwy bellach yn cwyno, ond mai ei fwriad oedd sicrhau "cyfiawnder cymdeithasol" wrth roi cyfle i bawb godi pryderon.
Pan gafodd y mesur ei gynnig ym mis Hydref, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn "edrych yn bositif ar y camau fydd yn helpu'r ombwdsmon yn ei rôl".
Ychwanegodd fodd bynnag nad oedd eisiau i wasanaethau cyhoeddus gael eu "gor-reoleiddio", a'i fod hefyd eisiau ystyried y goblygiadau o ran cost.