Ombwdsmon 'ddim eisiau bod yn Gomisiynydd Iaith'

  • Cyhoeddwyd
nick bennett
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nick Bennett yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi mynnu nad yw'n ceisio "ymestyn ei ymerodraeth" wrth feddiannu rhai o bwerau Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Nick Bennett wrth bwyllgor o ACau nad oedd wedi beirniadu'r Comisiynydd am yr amser roedd hi'n cymryd i ddatrys cwynion, gan ddweud mai "beirniadu'r system wnes i".

Fe wnaeth Mr Bennett hefyd wadu ei fod wedi tanseilio'i annibyniaeth wrth gyfarfod â swyddogion llywodraeth i drafod a ddylai gymryd cyfrifoldeb dros ymchwilio i gwynion am yr iaith.

Roedd AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian wedi honni fod y trafodaethau gyda gweision sifil yn "hollol amhriodol".

'Nid fy rôl i'

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gael gwared â swydd y comisiynydd, gan greu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.

Mae newid y drefn o ran hyrwyddo a gosod safonau am yr iaith yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Mr Bennett wedi dweud y dylai ei swyddfa ef ddelio â chwynion gan bobl sydd methu cael gwasanaethau yn y Gymraeg, gan fod y system bresennol yn "or-fiwrocrataidd a chymhleth".

Mae Gweinidog y Gymraeg hefyd wedi dweud y gallai'r Ombwdsmon etifeddu rhai o swyddogaethau'r Comisiynydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cael gwared ar swydd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Wrth siarad â phwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad, dywedodd Mr Bennett fod tystiolaeth o dramor yn awgrymu y gallai ombwdsmon ddelio â chwynion yn fwy effeithiol na chomisiynydd.

Ond mynnodd nad oedd hynny'n golygu ei fod hefyd yn awyddus i gymryd cyfrifoldeb dros osod a gweithredu safonau.

"Dwi ddim eisiau bod yn Gomisiynydd Iaith, mae 'na rôl glir i rywun reoleiddio'r iaith Gymraeg ac nid fy rôl yw hwnna," meddai.

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn rheoleiddiwr, dwi'n ombwdsmon. Ond dwi yn gweld bod ombwdsmon yn delio'n gyflymach, os allai ddweud, gyda chwynion ieithyddol mewn gwledydd eraill."

'Cymru'n le bach'

Fis Medi fe wnaeth Mr Bennett gyfarfod gweision sifil, gyda'r cofnodion yn dangos fod un o swyddogion Llywodraeth Cymru wedi amlinellu rhwystrau posib a bod Mr Bennett wedi dangos sut y byddai modd eu goresgyn.

Mae AC Plaid Cymru, Adam Price wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn honni fod hynny wedi golygu fod swyddogion y llywodraeth wedi gallu, "dylanwadu ar gynnwys ei ymateb i ymgynghoriad a'i benderfyniad ar yr achlysur hwn".

Ond mynnodd Mr Bennett nad oedd wedi peryglu ei annibyniaeth yn y cyfarfod.

"Mae Cymru'n le bach," meddai.

"Dwi'n trafod gyda gweision sifil yn aml. Weithiau dwi'n dadlau gyda gweision sifil."

Ychwanegodd: "Weithiau dwi'n ypsetio'r gwrthbleidiau, weithiau dwi'n ypsetio'r llywodraeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd y cyfarfod ei gynnal fel rhan o'r ymgynghoriad i'r Papur Gwyn. Mae'n hollol iawn ein bod ni'n gwrando ar syniadau a barn o bob ochr a'n bod ni'n ystyried pob cyfraniad yn ofalus cyn dod i gasgliad."