Ateb y Galw: Wyre Davies
- Cyhoeddwyd

Y newyddiadurwr Wyre Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhodri Llywelyn.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Derbyn tractor glas (un bach!) fel anrheg ar gyfer fy mhen-blwydd yn dair oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Yn yr ysgol ym Manceinion, merch o'r enw Lynne. Yn fy mreuddwydion, yr un blonde o Abba!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ddim llawer yn bersonol, ond mae'r ffordd rydym yn trin yr amgylchedd yn fy ngwneud yn ddig, bron bob dydd.

Cafodd Agnetha gryn argraff ar yr Wyre ifanc!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mewn priodas ffrind da, penwythnos d'wethaf.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gormod o lawer, meddai fy ngwraig.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n hoffi pysgota yn yr Afon Wyre, Ceredigion - oherwydd mae'n perthyn i mi! (Jôc!)

O Archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fy mhriodas!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Teulu, ffrindiau, teithio.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Llyfr - The Great Game
Ffilm - Twelve Angry Men

Mae Wyre wedi teithio'r byd yn gohebu i'r BBC - yma, roedd yn Libya yn 2011
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fy nhad, Tom. Bu farw yn 2014. Nes i byth ddweud popeth yr oeddwn am ddweud wrtho fe.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Roeddwn i'n arfer ymddangos yn y straeon lluniau cariad 'na yng nghylchgrawn Jackie.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cerdded yn rhywle anhygoel gyda fy ngwraig, Becky, a'r plant - efallai dychwelyd i'r Galapagos.

Mae David Attenborough, fel Wyre, hefyd yn mwynhau gweld y byd a chyfarfod â chymeriadau diddorol!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Fools Gold gan The Stone Roses. Fe'm magwyd ym Manceinion ac roedd y gerddoriaeth yno y gorau erioed.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Salad cimwch a chrancod, cyri Thai coch gyda chig hwyaden, Eton mess.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
David Attenborough.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Huw Edwards