Disgwyl i Faletau fethu Cyfres y Chwe Gwlad gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Faletau fod allan am rhwng 12-16 wythnos ar ôl iddo anafu ei ben-glin

Mae disgwyl i wythwr Cymru, Taulupe Faletau fethu Cyfres y Chwe Gwlad gydag anaf.

Fe wnaeth Prif Hyfforddwr tîm rygbi Caerfaddon, Todd Blackadder gadarnhau byddai Faletau allan rhwng 12-16 wythnos ar ôl iddo anafu ei ben-glin yn erbyn Toulon ddydd Sadwrn.

Mae Faletau yn ymuno â Jonathan Davies a Sam Warburton ar y rhestr o'r rhai sydd wedi'i hanafu cyn y gystadleuaeth, ac mae disgwyl y bydd Jake Ball yn methu rhan o'r gystadleuaeth hefyd.

Bydd Cymru yn wynebu'r Alban yn Stadiwm y Principality yn gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 3 Chwefror.