Ymwelwyr i'r Ysgwrn wedi treblu ers adnewyddu'r adeilad

  • Cyhoeddwyd
Yr Ysgwrn
Disgrifiad o’r llun,

Mae £3.4m wedi cael ei wario ar atgyweirio a datblygu Yr Ysgwrn i fod yn ganolfan dreftadaeth

Mae nifer ymwelwyr i'r Ysgwrn wedi treblu ers adnewyddu'r adeilad, yn ôl adroddiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Rhwng Mehefin a Thachwedd eleni fe wnaeth 7,424 o bobl ymweld â chyn gartref y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, ffigwr sydd wedi treblu o'r 2,500 o bobl sydd wedi ymweld â'r ffermdy'n flynyddol.

Fe wnaeth Yr Ysgwrn ail agor ym mis Mehefin eleni yn dilyn blwyddyn a hanner o waith atgyweirio ac adnewyddu.

"Mae'r ffigyrau ymwelwyr wedi cynyddu 300% a hynny dros gyfnod o bum mis yn unig," yn ôl yr adroddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Hedd Wyn ym mrwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917

Mae canrif eleni ers i Ellis Humphrey Evans farw ar faes y gad ym Mrwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r adroddiad yn nodi bydd "her i gynnal y diddordeb dros y blynyddoedd nesaf," yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i'r Ysgwrn.

Fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dderbyn grant o £3.1m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £300,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyweirio a datblygu adeiladau a dodfren Yr Ysgwrn.

Erbyn hyn mae'r holl ystafelloedd wedi eu hadfer i edrych fel y byddai wedi bod yn 1917.

'Tu hwnt i bob disgwyliad'

Dywedodd Pennaeth Addysg a Chyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Naomi Jones:

"Bu 2017 yn flwyddyn arbennig iawn yn hanes Yr Ysgwrn. A hithau'n flwyddyn canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn a'r Ysgwrn wedi ail agor ar ei newydd wedd ym mis Mehefin, roeddem yn rhagweld blwyddyn brysur iawn, ond roedd yr hyn a gafwyd y tu hwnt i bob disgwyliad.

"Rydym yn eithriadol o falch bod niferoedd ymwelwyr Yr Ysgwrn wedi mwy na threblu yn ystod y chwe mis cyntaf ac mae'n bleser llwyr gweld cynifer o bobl yn mwynhau ymweld â'r Ysgwrn i ddysgu am Hedd Wyn, diwylliant a threftadaeth Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.

"Mae'r adborth wedi bod yn wych. Yr her yn awr fydd cynnal diddordeb yn Yr Ysgwrn ac adeiladu ar y misoedd cyntaf gwerth chweil."