Tâl penaethiaid prifysgolion Cymru yn is

  • Cyhoeddwyd
University buildingFfynhonnell y llun, Betina Skovbro/Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 128 o staff Prifysgol Caerdydd yn derbyn dros £100,000 y flwyddyn

Mae adroddiad newydd yn dweud fod cyflogau penaethiaid prifysgolion yng Nghymru yn gyffredinol yn is na sefydliadau tebyg yng ngweddill y DU.

Ond roedd y cynnydd blynyddol o 3.6% yn 2015/16 yn uwch na'r ffigwr o 2.5% ar gyfer y DU, yn ôl ffigyrau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd oedd ar frig rhestr Cymru, gyda phecyn gwerth £294,000.

Fe wnaeth Prifysgol Glyndŵr wario dros £343,000 ond roedd hyn yn cynnwys talu rhan o gyflog y canghellor dros dro yr Athro Graham Upton.

Buodd e yn Wrecsam am 13 mis yn ceisio dod a sefydlogrwydd ariannol i'r sefydliad yn dilyn cyfnod o ailstrwythuro.

Gyda phecyn gwerth £277,000, cyn is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd oedd yr unig un yng Nghymru wnaeth dderbyn pecyn, heb gynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd yr uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

Uwch swyddogion

Yn ogystal ag is-gangellorion mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar gyflogau uwch swyddogion eraill.

Prifysgol Caerdydd oedd ar nifer mwyaf o staff oedd yn cael eu talu dros £100,000 - sef 128.

Yn ôl yr adroddiad mae hyn yn ffigwr canolig ar gyfer prifysgol 'grŵp Russell' gydag ysgol feddygol.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd bod cyflogau staff yn adlewyrchu "perfformiad a beth sy'n fforddiadwy, gan hefyd gymryd i ystyriaeth maint a chymhlethdod y sefydliad, graddfa ac amrywiaeth y gweithgareddau".

Roedd gan Brifysgol Abertawe 33, Bangor 18 tra bod y pum prifysgol arall oedd yn rhan o'r adroddiad gyda llai na 10 aelod o staff oedd yn derbyn dros £100,000.

Yn ddiweddar bu peth anesmwytho oherwydd taliadau cyflogau uwch rhai o staff prifysgolion gan gynnwys prifysgolion Caerfaddon, Southampton a Bath Spa.

Yn dilyn beirniadaeth fe wnaeth is-ganghellor Caerfaddon, yr Athro Glynis Breakwell, oedd yn derbyn cyflog o £468,000 y flwyddyn gyhoeddi ei bod yn rhoi gorau i'r swydd.

Ffynhonnell y llun, Cardiff University
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Colin Riordan yw is-ganhellor Prifysgol Caerdydd

Dywedodd is-ganghellor prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan fod yna lefel o 'ddal nôl' wedi bod yng Nghymru.

"Rwy'n gallu gweld pam fod yna bryder...ond byddwn i yn dweud fod cyflog is-ganghellor ar gyfartaledd yn is yng Nghymru na'r DU, ac mae'r gwahaniaeth rhwng cyfartaledd cyflog a lefel uwch swyddogion hefyd yn llai."

Ychwanegodd fod brifysgol wedi cyflwyno cyflog byw yn 2014.

Yn ôl adroddiad y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru roedd yn rhaid i gyflogau'r uwch-swyddogion adlewyrchu'r ffaith fod prifysgolion Cymru yn gweithredu o fewn marchnad y DU a'r farchnad ryngwladol.