Pryder rhieni ym Mhowys am ddyfodol cynllun addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Maesydre
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw codi'r adeilad newydd ar safle Ysgol Maesydre fel cartref parhaol Ysgol Gymraeg y Trallwng

Mae rhieni ym Mhowys yn pryderu y bydd cais i ddiogelu hen adeilad yn Y Trallwng yn peryglu cynlluniau'r sir i ddatblygu addysg Gymraeg yn yr ardal.

Dywed mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) fod cais dienw wedi ei wneud i Cadw all atal dymchwel hen Ysgol Maesydre a chodi ysgol Gymraeg newydd ar y safle.

Fe wnaeth llefarydd ar ran Cadw, y corff sy'n gyfrifol am warchod adeiladau hanesyddol, gadarnhau fod cais wedi ei dderbyn i wneud yr adeilad un rhestredig, a'u bod yn ymgynghori ar hynny.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi gwneud asesiad o'r cais am restru'r adeilad gan ddefnyddio'r criteria angenrheidiol, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar argymhelliad i'w restru."

Mae Cyngor Powys wedi cytuno i godi dwy ysgol gynradd newydd yn y dref, un cyfrwng Cymraeg a'r llall yn un cyfrwng Saesneg.

Dywedodd llefarydd eu bod yn y broses o ffurio eu hymateb i ymgynghoriad Cadw.

Yn ôl Ceri McEvoy, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG, mae'r cais am statws rhestredig yn ymddangos yn "ymgais clir i danseilio ymdrechion y cyngor i fuddsoddi'n helaeth mewn darpariaeth addysg yn y dref".

"Fel un o'r safleoedd a glustnodwyd ar gyfer ailddatblygu darpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Y Trallwng, mae'r safle o bwys sylweddol i wireddu'r cynllun ehangach hwnnw.

"Mae dymchwel hen Ysgol Maesydre yn elfen hanfodol o'r datblygiad."

Yn ôl RhAG mae'r cais am statws rhestredig wedi ei wneud ar y sail mai dyma'r ysgol gyntaf a ddyluniwyd gan bensaer penodol ac oherwydd ei 'arddull pensaernïol'.

Ar gost o £13m, bwriad Cyngor Powys yw ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal, prosiect sy'n cynnwys ysgol Gymraeg ar safle Maesydre, gyda lle i 150 o ddisgyblion.

Ym mis Medi fe gafodd ysgol gynradd Gymraeg gyntaf Y Trallwng ei sefydlu dros dro ar safle hen Ysgol Ardwyn, gyda'r gobaith ei bod yn symud i'r safle newydd ar Ysgol Maesydre yng ngwanwyn 2019.

Mae dros 70 o ddisgbylion yn mynychu'r ysgol, ac mae dosbarth meithrin ychwanegol.

"Roedd agor Ysgol Gymraeg Y Trallwng ym mis Medi yn garreg filltir hanesyddol yn natblygiad addysg Gymraeg ym Mhowys," meddai Ms McEvoy.

"Gofynnwn i'r cyngor roi sicrwydd y byddant yn cyflwyno dadl gref yn erbyn y cais hwn ac yn datgan bwriad clir i fwrw ymlaen â'r cynlluniau arfaethedig yn eu ffurf bresennol."

'Edrych i'r dyfodol'

Fe wnaeth llefarydd ar ran Cyngor Powys gadarnhau fod safle Maesydre wedi'i drefnu i fod yn rhan o dir Ysgol Gymraeg newydd Y Trallwng.

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn paratoi ei ymateb i Cadw.

Dywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet dros Addysg: "Er ein bod ni'n llwyr gydnabod pwysigrwydd hanesyddol yr adeilad hwn a'i gyfraniad at fywyd y dref, rhaid inni edrych i'r dyfodol.

"Mae'r cynlluniau ar gyfer yr ysgolion newydd yn Y Trallwng yn cael eu llunio'n ofalus gyda'i gilydd a byddai'n anffodus pe bai unrhyw beth yn oedi'r prosiect uchelgeisiol hwn.

"Mae swyddogion y cyngor yn gweithio gyda'r contractwr dylunio i ddeall unrhyw effaith y gallai hyn ei gael ar y prosiect adeiladu ysgolion pe bai Cadw'n cadarnhau ei benderfyniad i restru'r adeilad.

"Rhagwelir y bydd canlyniadau trafodaethau Cadw yn hysbys tua diwedd mis Ionawr."