Chwaraeon: Pump o Gymru i'w gwylio yn 2018
- Cyhoeddwyd
Ag yntau wedi bod mor llwyddiannus gyda'i ddewisiadau ar gyfer 2017, mae Cymru Fyw wedi herio Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr i ddewis pum person ifanc ym myd y campau i'w gwylio yn 2018.
Ethan Ampadu (17 oed)
Am flwyddyn mae'r chwaraewr 17 oed wedi ei chael.
Nid yn unig ei fod wedi ennill ei gapiau cyntaf dros Gymru yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama, mae o hefyd wedi chwarae ei gêm gyntaf dros Chelsea yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn y dyddiau lle mae chwaraewyr ifanc yn cael eu gyrru allan ar fenthyg gan glybiau mawr, mae Antonio Conte wedi penderfynu cadw Ampadu yn Stamford Bridge, ac mae o bellach yn aelod rheolaidd o garfan y tîm cyntaf.
Mae ganddo ddyfodol disglair yng nghrys glas Chelsea ac yng nghrys coch Cymru.
Owen Watkin (21 oed)
Chwaraewr wnaeth ddioddef anaf difrifol i'w ben-glin flwyddyn a hanner yn ôl ar ôl ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad efo tîm dan 20 Cymru yn 2016.
Ond mae o wedi brwydro 'nôl yn ddewr ac wedi creu argraff i'r Gweilch y tymor yma, yn enwedig yn y gêm yn erbyn Saracens yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Er iddyn nhw golli 36-34, fe sgoriodd Watkin gais cofiadwy, ac roedd yn ddraenen yn ystlys yr amddiffyn drwy gydol y gêm.
Fe chwaraeodd o dros Gymru am y tro cyntaf yn ystod Cyfres yr Hydref.
Does bosib y caiff gyfle arall i greu argraff yng nghrys coch Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Kiran Carlson (19 oed)
Dim syndod fod Carlson yn dipyn o seren gan iddo fynychu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd - yr un ysgol â Gareth Bale, Sam Warburton a Geraint Thomas.
Fo ydy'r chwaraewr ieuengaf yn hanes Morgannwg i sgorio cant o rediadau mewn gêm dosbarth cyntaf.
Mae o hefyd wedi llwyddo i gipio pum wiced mewn un gêm.
Mae o newydd arwyddo cytundeb tair blynedd newydd efo'r sir, sy'n newyddion gwych i ffyddloniaid Stadiwm Swalec.
Catrin Jones (18 oed)
Merch sydd eisoes wedi cael llawer o lwyddiant yn ystod ei gyrfa yn y codi pwysau.
Hi ydy pencampwr Cymru, a'r llynedd fe enillodd hi bencampwriaeth Prydain.
Yn gynharach eleni fe enillodd hi fedal arian ym Mhencampwriaethau Ieuenctid y Gymanwlad yn Awstralia.
Hi ydy Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru, ac mae hi eisoes wedi sicrhau ei lle yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.
Heb os nac oni bai, bydd hi'n targedu medal aur arall draw yn Gold Coast.
Jackson Page (16 oed)
Dyma i chi chwaraewr ddaeth i sylw pawb yn ystod Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ym mis Chwefror eleni.
Dim ond 15 mlwydd oed oedd o ar y pryd, ac fe lwyddodd i gyrraedd y drydedd rownd cyn colli yn erbyn Judd Trump.
Yn fwy diweddar, mae o wedi chwarae yn erbyn ei arwr Ronnie O'Sullivan yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Prydain yng Nghaerefrog, gan golli 6-3 - perfformiad wnaeth ennill canmoliaeth gan O'Sullivan ei hun.
Dim ond gwella fydd Page dros y blynyddoedd nesaf, ac mae'n edrych yn debyg fod Cymru wedi dod o hyd i seren snwcer newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2017