Express Motors yn ceisio am drwydded bysiau newydd

  • Cyhoeddwyd
Express Motors

Mae cwmni bysiau o Wynedd, sy'n colli eu trwydded i redeg cerbydau cyhoeddus ar ddiwedd y flwyddyn, wedi gwneud cais i adfer eu trwydded.

Fe benderfynodd y Comisiynydd Traffig, Nick Jones ym mis Awst na fydd Express Motors, o Benygroes ger Caernarfon, yn gallu gweithredu fel cwmni bysiau o ddiwedd 2017.

Daeth y penderfyniad hynny ar ôl i ymchwiliad gan Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ddod i'r casgliad bod rhai o'u dogfennau cynnal a chadw wedi cael eu ffugio.

Ond mae'r cwmni, sy'n gweithredu ar hyd gogledd-orllewin Cymru, nawr wedi gwneud cais i'r Comisiynydd Traffig am drwydded newydd.

Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i'r drwydded newydd yn cael ei glywed yn Llysoedd Barn Y Trallwng ar 17 Ionawr.

Mae Express Motors wedi gwneud cais i ddefnyddio 35 cerbyd, a bydd y gwrandawiad yn ystyried hynny ynghyd â nifer o faterion eraill.

Un o'r materion fydd yn cael eu hystyried fydd ymchwiliad i waith cynnal a chadw'r cwmni yn ymwneud â digwyddiad ble collodd un o'u cerbydau olwyn.