Trydedd pont dros Afon Menai: Pedwar opsiwn

  • Cyhoeddwyd
Map Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos manylion y pedwar opsiwn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pedwar opsiwn posib, dolen allanol fel rhan o ymgynghoriad i'r posibilrwydd o godi trydedd pont ar draws Afon Menai.

Byddai tri o'r cynigion yn golygu codi pont ychwanegol wrth ymyl Pont Britannia, tra bo'r pedwerydd yn sôn am estyniad ar y bont bresennol.

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ddydd Gwener ac yn parhau tan 9 Mawrth, gyda'r bwriad o gyhoeddi pa opsiwn sy'n cael ei ffafrio erbyn haf 2018, a dechrau ar y gwaith adeiladu erbyn diwedd 2020.

Wrth wahodd pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates ei fod wedi "ymrwymo'n llawn i ddatblygu trydydd pont ar draws y Fenai ddaw â nifer o fanteision i'r ardal".

Dyma manylion y cynigion:

  • Opsiwn Coch: Pont newydd yn union i'r gorllewin o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A ar yr A55

  • Opsiwn Pinc: Estyniad i Bont Britannia / pont newydd yn union i'r dwyrain o'r bont bresennol i ddarparu lonydd ychwanegol ar gyfer traffig a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55

  • Opsiwn Oren: Pont newydd yn union i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55

  • Opsiwn Porffor: Pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55

Mae pob opsiwn yn cynnwys cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr groesi'r Fenai naill ai ar y bont newydd neu ar Bont Britannia.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i roi £3m ar gyfer gwaith dylunio a datblygu trydedd pont fel rhan o'r gyllideb ddwy flynedd a gafodd gefnogaeth gan Blaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tagfeydd traffig yn broblem gyson i'r rhai sy'n teithio ar hyd Pont Britannia

Dywedodd Mr Skates y byddai codi trydedd pont dros y Fenai yn "mynd i'r afael â thagfeydd ar Bont Britannia a sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn barod am brosiectau mawr megis Wylfa Newydd".

"Mae'r drydedd bont ar draws y Fenai yn rhan hollbwysig o'n cynlluniau i wella capasiti, dibynadwyedd ac amseroedd teithio yn ogystal â sicrhau bod y rhwydwaith yn well.

"Rydym yn anelu at ddechrau ar yr adeiladu erbyn diwedd 2020."

Fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus mae arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn Llanfairpwll ac ym Mharc Busnes Parc Menai ger Bangor ym mis Ionawr.