Plaid Cymru i gefnogi cyllideb y llywodraeth Lafur

  • Cyhoeddwyd
llafur plaid

Mae Plaid Cymru wedi cytuno i gefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r cytundeb, sydd werth £210m, yn cynnwys hwb o £40m i gyllid iechyd meddwl, a £40m o fuddsoddiad mewn addysg uwch ac addysg bellach rhwng 2018 a 2020.

Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru y bydd y gyllideb yn darparu "budd i fywydau pobl Cymru".

Ond fe all y fargen hon fod yr un olaf i'w ffurfio rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Ymrwymiadau

Mae Llywodraeth Cymru i fod i gyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2018/19 ddydd Mawrth, ac mae angen cefnogaeth o du allan i Lafur i basio'r gyllideb drwy'r Cynulliad.

Mae'r cytundeb gyda Phlaid Cymru yn cynnwys £30m ar gyfer pŵerdy yng ngwaith dur Port Talbot, a £2m i dorri tollau Pont Cleddau erbyn 2020 - sy'n 75c ar gyfer ceir.

Mae'r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

  • £14m i ddatblygu hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;

  • £15m ar gyfer gwelliannau i'r A487 a'r A470 o 2019 ymlaen;

  • £3m ar gyfer dylunio a datblygu trydydd pont Menai;

  • £5m i amgueddfa gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed gogledd Cymru o 2019 ymlaen;

  • Buddsoddiad o £10m yn yr iaith Gymraeg;

  • Dim toriadau i'r grant sy'n cefnogi pobl fregus i fyw'n annibynnol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, bod y llywodraeth yn "falch" o "allu cytuno ar y fargen ddwy flynedd hon gyda Phlaid Cymru, sy'n rhoi sicrwydd i'n cyllideb i gyd".

"Mae'r cytundeb hwn yn adeiladu ar y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y llynedd, ac mae'n cynnwys cyfres o ddyraniadau rheolaidd ar gyfer y Gymraeg, y celfyddydau, gofal diwedd oes, iechyd meddwl, addysg uwch a Chroeso Cymru.

"Rydym hefyd wedi gallu cytuno ar gyllid cyfalaf i ddatblygu canolfan gofal iechyd integredig yn Aberteifi ac i adeiladu ar ganlyniadau'r astudiaethau dichonoldeb i gael oriel gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, y cytunwyd arnynt fel rhan o'r cytundeb y llynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth Lafur angen cefnogaeth o du allan i'r blaid er mwyn pasio'r gyllideb mewn pleidlais yn y Cynulliad

Ynghyd â'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol, mae angen un pleidlais ychwanegol ar Lafur, neu o leiaf un o'r gwrthbleidiau i ymatal i gael cyllidebau drwy'r Senedd.

Mae Plaid Cymru yn bwriadu ymatal ym pleidleisiau'r gyllideb.

Os fydd Plaid Cymru yn gwrthod helpu Llafur yn y dyfodol, gallai fod angen dibynnu ar gefnogaeth yr Arglwydd Elis-Thomas AC, sy'n cefnogi'r llywodraeth ond yn annibynnol.

'Darparu ar gyfer Cymru'

Dywedodd Adam Price, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, busnes a'r economi: "Bydd y cytundeb hwn ar y gyllideb yn darparu ar gyfer pobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru.

"Mae'n gwarchod y rheini sy'n agored i niwed, yn buddsoddi yn ein pobl ifanc, ac yn arloesi er mwyn dyfodol pob un ohonom.

"Dyma gytundeb i Gymru gyfan, o'r Cleddau i'r Fenai, o Wrecsam i'r Rhondda, o ddiwylliant i amaethyddiaeth, o ynni a thrafnidiaeth i addysg ac iechyd - syniadau newydd ar gyfer Cymru newydd."