Tua 1,200 o bobl yn nofio ym Mhorthcawl fore Nadolig

  • Cyhoeddwyd
PorthcawlFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae tua 1,200 o bobl wedi mentro i'r môr ar fore Nadolig ym Mhorthcawl eto eleni.

Roedd pobl o bob rhan o'r byd yn cymryd rhan, a dyma oedd y 53fed gwaith i bobl nofio yn y môr er mwyn casglu arian i elusennau.

Elusen ganser MacMillan sydd wedi ei dewis gan y pwyllgor trefnu y tro yma, ac fe fydd arian hefyd yn cael ei roi i fudiadau lleol.

Cafodd £10,000 ei gasglu'r llynedd, a'r gobaith yw y bydd mwy yn dod i'r coffrau eleni.

Y thema ar gyfer 2017 oedd Siôn Corn, er cof am Jack Bridge - Siôn Corn cyntaf y digwyddiad

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Dywedodd Marilyn Smith, un o'r trefnwyr, cyn y digwyddiad: "Mae rhai o'n ffrindiau yn teithio adref ar gyfer y Nadolig, felly rydyn ni yn cael nofwyr a phobl sydd yn dod i wylio o ar draws Prydain ac o dramor hefyd.

"Llynedd fe ddaeth ymwelwyr o Seland Newydd, Canada a'r Almaen heblaw am y rhai ddaeth o ardal de Cymru.

"Roedden nhw i gyd yma er mwyn mwynhau bore hwyliog yn Sandy Bay Porthcawl."

'Wedi ein llorio'

Mae cadeirydd y pwyllgor Dave King wedi diolch i'r busnesau a'r unigolion sydd wedi cefnogi'r digwyddiad.

"Rydyn ni wedi ein llorio gyda'r ffordd mae'r digwyddiad wedi ei gefnogi cystal yn y blynyddoedd diweddar," meddai.

Ffynhonnell y llun, Empics
Ffynhonnell y llun, Wales News Service