Tîm achub mynydd yn brwydro 'mlaen
- Cyhoeddwyd
Dywed gwirfoddolwyr tîm achub mynydd yn y de eu bod wedi eu calonogi gan "haelioni anhygoel y cyhoedd" ar ôl i dân ddifrodi gwerth tua £500,000 o'u hofer mis diwethaf.
Daw sylwadau Tîm Achub Mynydd Canol Bannau Brycheiniog ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod y cyhoedd eisoes wedi cyfrannu £24,000 drwy wahanol ymdrechion gweithgareddau.
Ers y tân yn eu canolfan yn Nowlais, ger Merthyr, mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn defnyddio ceir eu hunain er mwyn achub pobl sydd wedi eu hanafu, gan fod cerbydau 4 x4 y tim wedi eu difrodi yn y tân.
Dywedodd dirprwy arweinydd y tîm, Huw Jones, eu bod yn benderfynol o barha â'u gwaith.
Yn ddiweddar fe wnaeth y tîm, sy'n cynnwys 45 o wirfoddolwyr, ddefnyddio ceir eu hunain er mwyn cyrraedd dyn oedd wedi ei anafu yn dilyn damwain sled yn Rhondda Cynon Taf ar ddydd Sul 11 Rhagfyr.
Hefyd bu'n rhaid i'r tîm fenthyca offer, gan gynnwys rhaffau ac offer tywys, o dimau eraill oherwydd bod eu hoffer nhw wedi ei ddifrodi.
Dywedodd Mr Jones: "O'r cychwyn cyntaf fe wnaethom benderfynu brwydro'n mlaen. Dydi heb fod yn hawdd.... ond er gwaethaf hynny rydym yn ceisio gwneud ein gorau.
Hyd yma mae'r arian sydd wedi ei godi wedi ei ddefnyddio i brynu prif gerbyd achub newydd a dau gerbyd 4x4.