Annog brechu plant ifanc rhag y ffliw

  • Cyhoeddwyd
A child having the flu vaccineFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhieni plant dwy a thair oed yn cael eu hannog i fynd â'u plant i gael eu brechu rhag y ffliw y gaeaf hwn er mwyn lleihau nifer sy'n gorfod ymweld ag ysbytai.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru y gallai hyn hefyd fod yn help i rwystro'r ffliw rhag lledu yn y gymuned.

Mae pob plentyn a oedd yn ddwy neu'n dair oed ar 31 Awst 2017 yn gymwys i gael y brechlyn ffliw fel chwistrelliad i fyny'r trwyn, yn rhad ac am ddim gan eu meddyg teulu.

Mae'r brechiad hefyd wedi cael ei gynnig i blant cymwys yn y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd hyd Blwyddyn 4 yn yr ysgol gynradd.

Mae' brechiad yn fwy effeithiol pan fydd yn cael ei roi cyn i'r ffliw ddechrau cael ei drosglwyddo o berson i berson."

Dywedodd Dr Atherton: ""Mae perygl i blant ifanc ddioddef cymhlethdodau difrifol os byddan nhw'n dal y ffliw.

"Felly, rwy'n pwysleisio wrth rieni i sicrhau bod plant dwy a thair oed yn cael eu brechu rhag y ffliw.

Bydd hyn yn helpu i'w hamddiffyn rhag y ffliw ac yn golygu na fydd y ffliw yn cael ei drosglwyddo o un aelod y teulu i'r llall a rhwng ffrindiau yn y gymuned ehangach y gaeaf hwn."