Ap BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd
Mae nawr yn bosib cael negeseuon gan Cymru Fyw a derbyn y newyddion a'r straeon diweddaraf o Gymru yn syth i'ch dyfais.
Er mwyn derbyn y negeseuon, yn gyntaf mi fydd angen i chi ddilyn un o'r dolenni isod er mwyn lawrlwytho neu ddiweddaru'r ap i'r fersiwn newydd:
Cliciwch yma ar gyfer dyfais Apple, dolen allanol (iPad neu iPhone)
Cliciwch yma ar gyfer dyfais Android, dolen allanol (tabled neu ffôn)
Yna, byddwch yn gallu rhoi caniatád i ap BBC Cymru Fyw anfon hysbysiadau i'ch dyfais ynglŷn â straeon newydd. Gallwch chi newid eich meddwl unrhywbryd yng ngosodiadau'r ap.
Mae'r ap yn addas ar gyfer ffonau a thabledi Apple ac Android ac mae'n rhad ac am ddim. Dyma'r lle delfrydol i gael y newyddion a'r diweddaraf o Gymru, mewn un lle, yn Gymraeg.
Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap:
Prif Straeon - y prif straeon newyddion
Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru
Ardaloedd - y newyddion lleol o ranbarthau Cymru
Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
Mae popeth ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced) gydag ap BBC Cymru Fyw.