Cwmni bysus o Wrecsam wedi cael rhybudd ffurfiol

  • Cyhoeddwyd
D Jones a'i Fab

Mae wedi dod i'r amlwg fod cwmni bysus o ardal Wrecsam, ddaeth â'u gwasanaeth i ben dros y penwythnos, wedi cael rhybudd ffurfiol gan y Comisiynydd Traffig.

Cyhoeddodd Cwmni D Jones a'i Fab o Acrefair eu bod yn dod â'u gwasanaethau i ben ddydd Gwener.

Roedd can y gwmni drwydded i gadw 19 cerbyd ac roedd yn cynnal gwasanaethau yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir Gaer a Sir Amwythig.

Ond ym mis Hydref, roedd yn destun ymchwiliad cyhoeddus gan Gomisiynydd Traffig Cymru.

Roedd hyn yn ganlyniad i ymchwiliad cynharach gan Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, y DVSA, a ddaeth i'r casgliad bod elfennau o waith cynnal a chadw cerbydau'r cwmni yn anfoddhaol.

Rhybudd Ffurfiol

Yn dilyn yr ymchwiliad ar 5 Hydref, fe roddodd y Comisiynydd Nick Jones "rybudd ffurfiol" i'r cwmni, oedd yn golygu bod angen mynd i'r afael â nifer o agweddau o fewn y cwmni.

Ddydd Llun, dywedodd Gary Jones o'r cwmni wrth BBC Cymru nad oedden nhw wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, fod y cwmni'n gadarn yn ariannol, a bod eu trafferthion yn ymwneud â staff.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithel, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam ar yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Yn amlwg, rydyn ni'n parhau i ddelio cystal ag y gallwn ni gyda cholli D Jones a'i Fab, ac mae swyddogion wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n ddiflino er mwyn sicrhau darpariaeth amgen i'r rhai sydd wedi eu colli.

"Rydym yn gofyn i aelodau'r cyhoedd i gadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol, a rhai'r darparwyr trafnidiaeth, er mwyn gweld y diweddara ar sefyllfa'r gwasanaethau. Bydd y diweddaraf hefyd ar gael ar flog newyddion y cyngor.