Elusennau'n cael mwy o alwadau am hunanladdiad gan blant
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n cysylltu â llinellau cymorth elusennau ynglŷn â hunanladdiad.
Dywedodd Childline Cymru wrth raglen Newyddion 9 eu bod wedi delio ag 20% yn fwy o alwadau'n ymwneud â hunanladdiad dros y flwyddyn diwethaf.
Maen nhw hefyd yn poeni fod natur y galwadau yn fwy difrifol, gyda phlant mor ifanc a 10 oed yn cysylltu â nhw.
Dywedodd elusen arall, MEIC, fod nifer y galwadau wedi bron â dyblu o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd Gabrielle Joseph o Lansawel yn 16 oed pan ddaeth hi â'i bywyd i ben.
Yn y cyfweliad cyntaf ers marwolaeth ei merch yn 2011, dywedodd Julie Joseph wrth raglen Newyddion 9 nad yw hi'n synnu fod mwy a mwy o bobl ifanc yn chwilio am help.
'Dim syniad o gwbl'
"Dwi'n credu fod y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan enfawr ym mregusrwydd pobl a seibr-fwlio, felly dydw i ddim yn synnu o gwbl.
"Doedd gyda ni ddim syniad o gwbl fod unrhyw beth o'i le.
"Pan glywon ni'r newyddion, fe ddaeth ein teulu ni i stop - roedden ni mewn sioc llwyr.
"Fydden ni byth wedi disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd i Gabrielle. Hi oedd y person olaf y byddwn i'n disgwyl i wneud rhywbeth fel hyn."
Mae Julie Joseph hefyd yn galw ar rieni i gyfathrebu'n fwy plaen gyda'u plant: "Rhaid i chi ofyn iddyn nhw'n fwy uniongyrchol, yn hytrach na dweud "O, dere 'mlaen, ti'n iawn". Nid dyna'r ffordd, mae'n rhaid bod yn fwy uniongyrchol."
Mae dwy linell gymorth - Childline a MEIC - yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau yn ymwneud â hunanladdiad.
Dywedodd Lisa Vranch o Childline: "Yn y dechre o'dd plant yn dod i siarad am deimlo yn isel falle.
"Lot o broblemau yn digwydd ond falle roedden nhw yn hunan frifo i ymdopi gyda'r teimladau yna.
"Ond nawr mae plant yn dod yn syth i ddweud bod nhw isie lladd eu hun a dyna lle ni wedi gweld y gwahaniaeth fwyaf."
Yn dilyn marwolaeth Gabrielle, sefydlodd ei theulu elusen yn ei henw i helpu plant a phobl ifanc. Un sydd wedi cael budd o'r gronfa yw Amy Holloway.
Pan yn 15 oed, cafodd Amy ddiagnosis o anorecsia, iselder a gorbryder. Mae hi'n ddiolchgar am yr help a gafodd gan gronfa 'Friends of Gabby Joseph'.
'Deall fy nheimladau'
"Pan gefais i'r arian gan elusen Gabby Joseph, fe helpodd fi achos cefais fynd at gynghorwr preifat, ac o'i herwydd hi, fe ges i lawer mwy o dasgiau i'w cyflawni.
"Drwy'r tasgiau hynny, fe ddechreuais ddeall fy nheimladau lawer mwy.
"Dwi'n ddiolchgar, fe helpodd fi lawer. Dwi'n teimlo pe na fyddwn i wedi ei gael e, fydden i ddim wedi gwella. Dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu mynd i brifysgol."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod atal hunanladdiad yn her, a'u bod yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, ysgolion ac elusennau er mwyn cynnig cymorth i bobl.
Stigma
Dywedodd yr Athro Ann John, Arweinydd Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiadau gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymwybodol bod gwasanaethau'r trydydd sector yn adrodd bod yna gynnydd yn nifer y galwadau gan blant sy'n meddwl am hunanladdiad a hunan-niweidio, ond dydyn ni ddim yn gwybod a yw hyn oherwydd fod pobl yn siarad am faterion fel hyn yn fwy nag erioed ac yn chwilio am help, neu a oes yna newid mawr wrth wraidd hyn.
"Mae llawer o waith wedi ei wneud ar fynd i'r afael â'r stigma sy'n cael ei gysylltu gyda'r materion hyn, ac i godi ymwybyddiaeth y dylai pobl siarad â rhywun a rhywun i chwilio am help os ydyn nhw'n meddwl am ladd eu hunain neu niweidio eu hunain.
"Y flwyddyn nesa' byddwn yn cynhyrchu adnoddau i athrawon, rhieni a gofalwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud os yw eu plentyn yn poeni am hunanladdiad, a pha gymorth sydd ar gael."
Os ydych yn dioddef yn emosiynol ac am gael manylion sefydliadau all gynnig cyngor a chefnogaeth ffoniwch 0800 066 066 (galwad am ddim) i gael gwybodaeth neu cliciwch yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2017