Pryder y bydd oedi i gynllun ffordd osgoi Llandeilo
- Cyhoeddwyd
Mae AC Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn poeni y gallai prosiect ffordd osgoi Llandeilo fod 10 mis yn hwyr, ac y mae wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd yr Economi i fynegi ei bryderon.
Ddiwedd Rhagfyr y llynedd daeth cadarnhad y byddai'r gwaith ar ffordd osgoi ger Llandeilo, yn dechrau cyn diwedd 2019.
Mae Adam Price yn honni bod y gweinidog Ken Skates wedi dweud wrtho y byddai'r ffordd yn cael ei gwerthuso'n llawn erbyn haf 2017, ac mai'r bwriad oedd penodi contractiwr ac adeiladwr erbyn diwedd y flwyddyn.
"Ond mae'n ymddangos nad yw'r naill a'r llall wedi eu cyflawni eto," meddai Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Gwadu unrhyw oedi mae Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod y gwaith datblygu a gwerthuso yn mynd yn ei flaen.
'Oedi'
Ychwanegodd Mr Price: "Rwy'n pryderu bod yr amserlen ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo eisoes wedi llithro, gyda phosibilrwydd y bydd oedi o 10 mis yn ei cham cychwynnol.
"O wybod bod ffordd osgoi Llandeilo wedi bod ar yr agenda ers 50 mlynedd gyda nifer o addewidion wedi eu gwneud a thorri yn y gorffennol, mae nifer o fy etholwyr, wrth reswm, yn amheugar ynglŷn â p'un ai gaiff y cytundeb ei anrhydeddu gan Lywodraeth Lafur Cymru."
Gwadu unrhyw oedi mae Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod y gwaith datblygu a gwerthuso yn mynd yn ei flaen.
Ychwanegodd llefarydd bod gweithdai wedi eu trefnu ar gyfer misoedd Ionawr a Chwefror, ac mae bwriad i "ddarparu mwy o wybodaeth ar y dewisiadau ar wefan Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd".
Cafodd buddsoddiad o £50m ar gyfer y ffordd ei gyhoeddi fel rhan o gynlluniau gwerth £83m gan Lywodraeth Cymru i dalu am gynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth, a hynny yn dilyn cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Yn y gorffennol mae'r cynllun i adeiladu'r ffordd osgoi wedi arwain at bryderon gan rai perchnogion busnesau yn y dref, am eu bod yn poeni y bydd llai o siopwyr yn dod yno.
Ond yn ôl Lisa Jones, sy'n rhedeg cwmni marchnata Sblash ac yn un o drefnwyr Gŵyl y Synhwyrau, dylai'r ffordd osgoi "wneud y dref yn fwy deniadol a diogel gan fod y traffig yn gallu bod yn drwm".
"Dwi'n gobeithio y bydd y ffordd yn dod yn fuan. Ry'n ni gyd yn poeni pan fod newid ar droed ond wi'n credu bydd y ffordd osgoi yn beth da i'r dref," meddai.
'Rhaid gweithredu'
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Jonathan Edwards hefyd wedi dweud ei fod yn bryderus am yr oedi.
"Roedd y fargen yn gytundeb cyllid ffurfiol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru," meddai.
"Ni fydd, Adam, minnau na phobl Dyffryn Tywi yn caniatáu i'r Llywodraeth Lafur gefnu ar y prosiect. Mae rhaid iddynt weithredu."
Mae Adam Price yn cydnabod bod modd i Lywodraeth Cymru "gydio a chychwyn ar yr adeiladwaith yn 2019 fel y cynlluniwyd".
"Ond er mwyn parchu'r dyddiad mae angen iddynt gael tipyn o siâp arni," ychwanegodd.