Dwy blaid yn dewis ymgeiswyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Sarah Atherton and Donna LalekFfynhonnell y llun, Sarah Atherton/Donna Lalek
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Atherton a Donna Lalek ydy'r ymgeiswyr cyntaf i gael eu dewis

Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr isetholiad i ddewis olynydd y diweddar Carl Sargeant.

Fe fydd y cyn-nyrs Sarah Atherton yn sefyll dros y Torïaid yn Alun a Glannau Dyfrdwy, tra bod y cynghorydd cymuned Donna Lalek wedi'i dewis ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae mab Mr Sargeant, Jack, ymhlith rhestr fer o dri sydd yn ceisio am yr enwebiad Llafur.

Mae UKIP eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n ymladd y sedd os ydi Jack Sargeant yn cael ei ddewis.

Dyw Plaid Cymru ddim wedi cadarnhau eto pwy fydd eu hymgeisydd nhw ar gyfer yr isetholiad, fydd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 6 Chwefror.

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw ym mis Tachwedd, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog Carwyn Jones fel yr Ysgrifennydd Cymunedau yn dilyn honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod.

Mae Llafur wedi ennill sedd Alun a Glannau Dyfrdwy ym mhob etholiad Cynulliad ers yr un cyntaf yn 1999, gyda Mr Sargeant yn gwasanaethu'r etholaeth am yr 14 mlynedd ddiwethaf.

Yn yr etholiad diwethaf yn 2016 cafodd Llafur fwyafrif o 5,364 dros y Ceidwadwyr, oedd yn ail, gydag UKIP yn drydydd.