Jack Sargeant yn cynnig ei enw i olynu ei dad

  • Cyhoeddwyd
Jack SargeantFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack Sargeant yn awyddus gynrychioli etholaeth Alyn a Dyfrdwy yn y Cynulliad

Mae mab y diweddar Carl Sargeant wedi cadarnhau ei fod yn cynnig ei enw i fod yn ymgeisydd Llafur yn etholaeth Alun a Glannnau Dyfrdwy yn yr isetholiad fis Chwefror.

Roedd Jack Sargeant eisoes wedi mynegi ei awydd i olynu ei dad, wedi ei farwolaeth ym mis Tachwedd.

Bydd cyfarfod dethol terfynol o aelodau lleol y blaid yn cael ei gynnal yn fuan y flwyddyn newydd, cyn yr isetholiad ar 6 Chwefror.

Panel o aelodau Llafur Cymru sy'n gyfrifol am ddewis rhestr fer o ymgeiswyr. Mae BBC Cymru'n deall mai'r enwau eraill ar y rhestr fer yw Carolyn Thomas, cynghorydd sir yn Sir y Fflint, a Hannah Jones, cynghorydd tref yn Saltney.

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod ar ôl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ei ddiswyddo, yn dilyn honiadau am ymddygiad amhriodol.

'Croesi'r rhwystr cyntaf'

Dywedodd Jack Sargeant: "Rwy'n falch iawn o groesi'r rhwystr cyntaf yn y broses.

"Dwi nawr yn edrych ymlaen at y cyfarfod dethol terfynol yn y flwyddyn newydd, pan fydd cyfle i mi amlinellu fy ngweledigaeth i aelodau lleol y blaid yn uniongyrchol.

"Mae egwyddorion Llafur wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng ngogledd ddwyrain Cymru - mae'n diffinio'n cymunedau ni.

"Bydd yr isetholiad ddydd Mawrth, 6 Chwefror yn bwysig i sicrhau y gallwn ni barhau i weithredu'r gwerthoedd hynny ar gyfer pawb yn Alun a Glannau Dyfrdwy.

"Dyna pam rwyf wedi cynnig fy enw fel ymgeisydd Llafur."

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr wedi cadarnhau y bydd ganddyn nhw ymgeiswyr yn yr isetholiad.

Dywedodd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton na fydd ei blaid yn cyflwyno ymgeisydd yn yr isetholiad "er parch i'r diweddar Carl Sargeant", os ydi Jack Sargeant yn sefyll.