Isetholiad ym mis Chwefror ar gyfer sedd Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi y bydd isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 6 Chwefror, 2018.
Mae'r sedd wedi bod yn wag ers marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd.
Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei bod wedi "ystyried sensitifrwydd yr amgylchiadau" wrth benderfynu ar ddyddiad y bleidlais - y diwrnod hwyraf posib oedd yn cael ei ganiatáu dan reolau'r Cynulliad.
Ddydd Gwener fe wnaeth cannoedd o alarwyr fynychu angladd Mr Sargeant, ac yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint roedd yn un o'r angladdau mwyaf erioed yng Nghei Connah.
'Trefniadau angenrheidiol'
Fel arfer mae etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal ar ddydd Iau, ond does dim gofyniad statudol i wneud hynny.
Dywedodd y Cynulliad fod y dyddiad ym mis Chwefror wedi'i ddewis er mwyn sicrhau fod yr is-etholiad wedi'i reoli'n iawn, ac er mwyn osgoi unrhyw amhariad dros gyfnod y Nadolig.
Ychwanegodd y datganiad: "O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r Llywydd yn credu bod y penderfyniad hwn yn rhoi'r cyfle gorau i'r holl bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr baratoi, ac mae hefyd yn galluogi'r awdurdod lleol i wneud y trefniadau angenrheidiol mewn modd amserol."
Yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016 fe enillodd Carl Sargeant sedd Alun a Glannau Dyfrdwy dros Lafur gyda 45.7% o'r bleidlais, a mwyafrif o 5,364.
Y gred yw bod y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi lladd ei hun, bedwar diwrnod ar ôl iddo golli ei swydd yn dilyn honiadau o "ddigwyddiadau" yn ymwneud â menywod.
Roedd hefyd wedi cael ei wahardd o'r Blaid Lafur yn dilyn yr honiadau, ond dywedodd ar y pryd y byddai'n brwydro i adfer ei enw da.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd ganddo ddewis ond diswyddo Mr Sargeant o'r cabinet.
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r ffordd y deliodd Mr Jones â'r diswyddo, yn ogystal ag ymchwiliad ar wahân yn ystyried beth oedd Carwyn Jones yn ei wybod am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Mae'r cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones wedi dweud bod awyrgylch wenwynig o fewn Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, a bod Mr Sargeant yn un o'r rhai gafodd ei fwlio.