Diwedd cyfnod i Bryn Williams o Ffestiniog wedi 50 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Bryn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Williams yn rhoi gorau i ddosbarthu wyau o ddrws i ddrws wedi 57 o flynyddoedd o wasanaethu Bro Ffestiniog

Mae hi'n ddiwedd cyfnod i ddyn busnes o Lan Ffestiniog sydd wedi bod yn gwasanaethu trigolion y gymuned ers dros 50 mlynedd.

Mae Bryn Williams, 83, yn wyneb cyfarwydd i nifer, ond bydd yn rhoi'r gorau i ddosbarthu wyau a chynnyrch eraill i gartrefi'r fro.

Yn ogystal â gwerthu wyau mae Mr Williams hefyd wedi bod yn dosbarthu llysiau o ddrws i ddrws allan o'i fan.

Dywedodd: "Mi fydd hi'n rhyfedd rhoi'r gorau iddi ar ôl mynd o dŷ i dŷ ar hyd y blynyddoedd.

"Dwi'n teimlo bod yr amser wedi dod a dwi'n 83 oed ond yn dal i gael iechyd da."

'Diolchgar iawn'

Un sydd wedi bod yn derbyn wyau gan Mr Williams yw Wil Price o Flaenau Ffestiniog, sy'n "ddiolchgar iawn" iddo.

Dywedodd Mr Price: "Ers blynyddoedd maith mae ei wasanaeth wedi bod yn ddi-dor i bawb ac mae pawb yn ddiolchgar dros ben am iddo ddŵad drwy bob tywydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wil Price y byddai'r gymuned yn gweld eisiau'r gwasanaeth

"'Dach chi'n gwybod ar ôl i'r ffynnon sychu 'de ni gyd yn gweld ei gwerth hi, ac yn sicr mi fydd na golled fawr ar ôl i ffynnon Bryn sychu fyny.

"Mae'n ddiwedd cyfnod arbennig iawn yn hanes Blaenau wrth gwrs, 'dan ni wedi colli ein dyn llefrith ers blynyddoedd, ein dyn bara ers blynyddoedd a rŵan 'dan ni'n colli gwasanaeth gwerthfawr iawn unwaith eto."

'Ffordd o fyw wedi newid'

Wrth i Mr Williams orffen gwerthu o ddrws i ddrws mae'n dweud y bydd o'n cadw'n brysur ac yn dal mynd ag wyau i'r caffis lleol, ac yn gwerthu coed hefyd.

Mae Mr Williams hefyd yn cydnabod bod pethau wedi newid ers iddo ddechrau gwerthu wyau.

"Mae ffordd o fyw wedi newid yn tydi ac wedyn mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth.

"Dwi wedi gweld ar hyd y blynyddoedd busnes yn mynd i lawr o flwyddyn i flwyddyn."

Ycwhanegodd: "Faswn i'n hoffi diolch i'r holl gwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd a dymuno nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb."