Amlosgfa Margam wedi'i wneud yn adeilad rhestredig

  • Cyhoeddwyd
Amlosgfa MargamFfynhonnell y llun, Bilbo/Geograph

Mae amlosgfa "creadigol a llawn dychymyg" wedi cael ei wneud yn adeilad rhestredig gan gorff Cadw.

Mae Amlosgfa Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi derbyn statws rhestredig Gradd II.

Dywedodd adroddiad yn gynharach eleni bod yr adeilad "wastad wedi denu diddordeb gan sylwebwyr ar ddatblygiadau pensaernïol" ers iddo gael ei adeiladu yn 1969.

Yn ôl Cadw, mae'r amlosgfa "o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig".

Mae'r statws yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw newidiadau i gymeriad yr adeilad yn y dyfodol gael caniatâd arbennig adeilad rhestredig.

Margam yw'r trydedd amlosgfa yng Nghymru i gael ei wneud yn adeilad rhestredig, yn dilyn Llangrallo ym Mhen-y-bont a Llwydcoed yn Rhondda Cynon Taf.