Barrow 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Wrecsam i sicrhau gêm gyfartal er iddyn nhw fynd ar ei hôl hi oddi cartref yn erbyn Barrow.
Y tîm cartref sgoriodd gyntaf, a hynny wedi dwy funud yn unig, wrth i Moussa Diarra benio'r bêl i gefn y rhwyd.
Bu bron iddo ddyblu'r sgôr bum munud yn ddiweddarach, ond fe lithrodd y bêl heibio'r trawst.
Daeth Wrecsam yn ôl yn gyfartal wedi 25 munud, wrth i Shaun Pearson benio'r bêl o gic gornel.
Er gwaeth pwysau gan y ddau dîm, wnaeth yr un ohonyn nhw lwyddo i sgorio yn yr ail hanner.