Ffordd dal ar gau ger Port Talbot yn dilyn tirlithriad
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd ger Port Talbot yn parhau i fod ar gau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn tirlithriad ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu'r De ei fod yn ddigwyddiad "bychan", a hynny ar ffordd y B4286 Ffordd Cwmafan, rhwng London Row yng Nghwmafan a Heilbronn Way ym Mhort Talbot.
Yn ôl yr AC lleol, David Rees roedd y gwasanaeth tân a swyddogion y cyngor wedi bod ar y safle ddydd Sadwrn yn delio â'r digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi gofyn i yrwyr a cherddwyr i osgoi'r ardal am y tro.