Apêl wedi galwadau brys am ambiwlans oherwydd annwyd
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl i bobl feddwl yn ofalus cyn ffonio am ambiwlans Nos Galan ar ôl i'r gwasanaeth dderbyn galwadau'n gofyn am driniaeth at annwyd a phoenau stumog dros gyfnod y Nadolig.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn 1,600 o alwadau ddydd San Steffan - 300 yn fwy na'r arfer - ac roedd rhai yn ymwneud â mân faterion.
Fe wnaeth hynny, medd y gwasanaeth, amharu ar ymdrechion i roi cymorth y gleifion oedd yn ddifrifol wael.
Nos Galan yw'r noson fwyaf prysur o'r flwyddyn i'r gwasanaeth ac fe fydd 150 o ambiwlansys a cherbydau ar ddyletswydd.
Mae'r gwasanaeth wedi cyhoeddi esiamplau ar wefan Twitter o'r galwadau a gafodd eu derbyn dros gyfnod y Nadolig nad oedd yn ddigon difrifol i gyfiawnhau galw am ambiwlans.
'Neges anodd'
Yn eu plith mae galwadau ynglŷn â phoen cefn, poen stumog, peswch a phoen ysgwydd.
"Os gwelwch yn dda, meddyliwch ddwywaith cyn ein galw Nos Galan eleni," yw apêl y gwasanaeth ar Twitter.
Dywedodd y pennaeth gweithredu Richard Lee: "Mae hon yn neges anodd i ni ond mae'n rhaid cadw ambiwlansys yn rhydd ar gyfer galwadau lle mae bywydau yn y fantol.
"Heno fe fydd ganddon ni 150 o ambiwlansys a cherbydau yn ogystal â nyrsus a pharafeddygon ar y ffôn ac fe fydd ein timau gwychyn ein canolfannau galw yn troi pob carreg i arbed bywydau."
Ychwanegodd: "Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn brysur iawn gydag o gwmpas 160 o alwadau 999 ychwanegol bob 24 awr. Y 24 nesaf fydd y rhai prysuraf i ni o'r flwyddyn."
Yn ôl Heddlu De Cymru mae trefniadau manwl mewn lle er mwyn sicrhau y bydd degau o filoedd o bobl yn gallu dathlu Nos Galan yn ddiogel mewn trefi a dinasoedd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jon Drake: "Fel arfer fe fyddan ni'n gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys eraill, ac mae'r cydweithio agos yma yn helpu sicrhau gwell cymorth i bwy bynnag sydd ei angen."
Yn y cyfamser, mae'r RSPCA yn rhybuddio pobl o'r peryglon i fywyd gwyllt o ganlyniad rhyddhau llusernau yn ystod dathliadau'r flwyddyn newydd.
Mae gweddillion llusernau yn gallu lladd anifeiliaid sy'n ceisio eu bwyta.
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru heblaw Merthyr Tudful wedi gwahardd rhyddhau llusernau o fannau cyhoeddus.