Dim codiad yn nhollau Pont Hafren
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfrifoldeb am y pontydd yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Prydain ar 8 Ionawr 2018.
Bydd pontydd Hafren yn cael eu trosglwyddo i berchnogaeth Llywodraeth Prydain yn 2018.
Ac am y tro cyntaf ers 1966 fydd y tollau ar y ddwy bont ddim yn cael ei codi ar 1 Ionawr. Mae'r doll fel arfer yn cael ei chodi ar y diwrnod hwn er mwyn adlewyrchu chwyddiant blynyddol.
Ond gan fod y pontydd yn cael eu trosglwyddo o ofal cwmni preifat Severn River Crossing PLC wythnos nesaf, bydd y tollau yn hytrach yn gostwng o £6.70 i £5.60.
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain dorri'r tollau yn gyfangwbl erbyn diwedd 2018.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe allai economi Cymru elwa o hyd at £100m y flwyddyn pan fydd y tollau'n cael eu diddymu.
"Rhwystr i'r economi"
Mae tua 25 miliwn o gerbydau yn mynd dros y ddau groesiad bob blwyddyn, a'r amcangyfrif ydy y gallai teithwyr cyson sy'n cymudo ar draws aber afon Hafren arbed tua £1,400 y flwyddyn pan fydd y tollau'n diflannu.
"Mae'r mwyafrif o dollau Pontydd hafren wedi achosi rhwystr i dyfiant economi ers dros hanner canrif", meddai Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Bydd y doll i geir yn disgyn o £6.70 i £5.60 ar 8 Ionawr
"Mewn llai nai blwyddyn fe fyddwn ni'n profi'r hwb economaidd mwyaf i dde Cymru a'r cymoedd ers degawdau."
Mae Mr Cairns wedi gwahodd partneriaid lleol a busnesau o'r ardal a de orllewin Lloegr i fynychu cynhadledd busnes arbennig yng Nghasnewydd ar 22 Ionawr er mwyn trafod cryfhau'r cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy ardal cyn i'r doll gael ei chodi yn gyfangwbl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2017
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2016