CBI Cymru'n galw i ddiddymu tollau Pont Hafren
- Cyhoeddwyd
Dylai'r tollau i groesi Pont Hafren gael eu diddymu "er mwyn rhoi hwb i'r economi ar unwaith", medd CBI Cymru.
Mae'r corff yn cynrychioli rhai o gyflogwyr mwya'r wlad.
O dan y cynlluniau presennol fe fydd ceir, faniau a bysiau bach yn talu £3 o doll pan fydd y pontydd yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.
Bydd lorïau a bysus mwy yn talu £10, yn lle'r £20 ar hyn o bryd.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi ymgyrchu dros ddiddymu'r tollai ers blynyddoedd.
'Mae'r byd yn gwylio'
Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price: "Mae'r DU wedi brwydro am ei henw da fel economi disgwyliadwy sydd o blaid mentergarwch, ac mae'n rhaid gwarchod hynny - mae'r byd yn gwylio.
"Byddai diddymu'r tollau dros yr Hafren yn arwydd cynnar a chlir bod llywodraeth nesa'r DU wedi ymrwymo i dyfu economi Cymru.
"Mae cost i ddiddymu'r tollau ond fe allai roi hwb ar unwaith i'r economi, ac yn gweu cymunedau de Cymru a de orllewin Lloegr yn agosach at ei gilydd, gan gynorthwyo i rannu cyfoeth a gwella cystadleuaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2017