'Cynllun pwysig' i achub cregyn gleision perlog prin
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr wrthi'n ceisio achub un o'r mathau prinnaf o gregyn gleision yng Nghymru.
Mae 1,300 o gregyn gleision perlog ifanc yn cael eu magu mewn deorfa ym Mhowys gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o raglen fridio arbennig.
Bwriad cadwraethwyr ydy rhyddhau'r cregyn yn ôl i afonydd Cymru, gan wydroi'r tranc sy'n eu hwynebu.
"Mae hwn yn gynllun pwysig oherwydd y bygythiad i ddyfodol cregyn gleision perlog," meddai Dr John Taylor, arbenigwr pysgodfeydd yr asiantaeth.
"Mae 'na brinder dybryd o gregyn gleision ifanc yn ein hafonydd erbyn hyn, ac mae'r rheiny sydd yno rhwng 50 a 60 oed. Dydyn ni heb ddod o hyd i gregyn ifanc ers degawdau."
Er bod y rhywogaeth yn cael ei warchod gan y gyfraith, dim ond mewn rhannau gogleddol o'r afon Mawddach a thua de'r afon Gwy mae modd gweld y cregyn gleision perlog yn tyfu.
"Rydyn ni angen mwy o gymorth er mwyn sicrhau dyfodol i'r rhywogaeth yma o gregyn gleision, achos mae newid yn yr hinsawdd a chymdeithas yn gyffredinol yn fygythiad," ychwanegodd Mr Taylor.
Mewn deorfa yn Aberhonddu mae arbenigwyr wedi llwyddo i fagu cregyn ifanc drwy ddefnyddio technegau sydd wedi cael eu llunio yn Norwy a Luxembourg. Mae'n cynnwys trosglwyddo'r cregyn bach i dybiau'n llawn algae a gwaddod.
Mae'r cregyn yn tyfu yno nes eu bod yn barod i gael eu rhyddhau, ond mae'r rheiny sydd yn gyfrifol am y cynllun yn dweud eu nhw eto i benderfynu ar safleoedd addas ar gyfer y cregyn gleision bach newydd.