George North yn wynebu ras yn erbyn amser cyn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd

Mae Northampton Saints wedi cadarnhau fod George North yn debygol o fod allan am o leiaf mis
Mae asgellwr Cymru, George North yn wynebu ras yn erbyn amser i fod yn holliach ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl iddo ddioddef anaf i'w ben-glin.
Mae clwb North, Northampton Saints wedi cadarnhau ei fod yn debygol o fod allan am o leiaf mis wedi iddo gael ei anafu yn y gêm yn erbyn Harlequins ddydd Sadwrn.
Ni wnaeth North ymddangos i Gymru yng Nghyfres yr Hydref chwaith oherwydd anaf.
Fe wnaeth ddychwelyd i chwarae i Northampton Saints ddydd Sadwrn diwethaf, ond cafodd ei anafu eto yn y gêm honno.
Mae Warren Gatland eisoes heb Sam Warburton a Jonathan Davies ar gyfer y Chwe Gwlad, gyda Taulupe Faletau hefyd yn debygol o fethu allan.
Yn ogystal â North, fe wnaeth Dan Lydiate a Hallam Amos ddioddef anafiadau dros y penwythnos.
Bydd Cymru yn wynebu'r Alban yn gêm gyntaf y Chwe Gwlad ar 3 Chwefror.