Unedau brys ysbytai Cymru 'fel maes y gad'
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i 18.3% o gleifion ddisgwyl dros bedair awr am driniaeth yn ail wythnos mis Rhagfyr
Mae unedau brys yn ysbytai Cymru'n "teimlo fel maes y gad" i staff, yn ôl Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru (CBMF).
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru'n dangos bod nifer y bobl wnaeth ymweld ag unedau brys wedi codi i 2,752 pob diwrnod ar gyfartaledd ym mis Tachwedd - 3.3% yn uwch na'r un mis yn 2016.
Dywedodd CBMF Cymru bod ysbytai'n "cael eu hymestyn yn ddifrifol".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ffliw a rhagor o alwadau brys dros y Nadolig wedi cyfrannu at bwysau ychwanegol y gaeaf.
'Brwydr'
Dywedodd dirprwy lywydd CBMF Cymru, Dr Robin Roop: "I staff, mae uned frys yn teimlo fel maes y gad.
"Rydyn ni'n brwydro i drin nifer cynyddol o gleifion sy'n ddifrifol wael yn ddiogel, rydyn ni'n brwydro i ganfod digon o staff i lenwi sifftiau ac rydyn ni'n brwydro i ganfod gwely gwag ar gyfer cleifion.
"Y gwir yw, er ymdrechion gorau holl staff y gwasanaeth iechyd, mae diogelwch cleifion yn cael ei beryglu yn ddyddiol.
"Dyw hi ddim yn dderbyniol bod nifer cynyddol o gleifion yn cael ei gadael ar welyau dros dro mewn coridorau, heb ofal addas."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod unedau brys yn ei chael yn anodd ymdopi "yn rhannol oherwydd cynnydd yn nifer y cleifion gyda heintiau fel ffliw a norovirus sydd angen gwely ysbyty".
Ychwanegodd bod y gwasanaeth ambiwlans wedi gweld cynnydd o 50% mewn digwyddiadau difrifol o'i gymharu â chyfnod y Nadolig yn 2016, a bod gwasanaeth galwadau llai difrifol 111 wedi derbyn dwbl y galwadau roedden nhw'n ei ddisgwyl ar Ddydd Calan.
Ym mis Tachwedd dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod Cymru yn y "safle gorau posib" i ddelio gyda phwysau ychwanegol y gaeaf.
Er ei fod yn croesawu'r cynlluniau gafodd eu rhoi mewn lle gan y llywodraeth, dywedodd Dr Roop bod angen "mwy o welyau, mwy o nyrsys a mwy o ddoctoriaid" ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi gorfod gohirio'r "mwyafrif" o llawdriniaethau
Mae mwy na miliwn o bobl wedi ymweld ag unedau brys Cymru yn flynyddol am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Targed y llywodraeth yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn pedair awr, ond dyw'r taged hwnnw ddim wedi ei gyrraedd yn y pum mlynedd diwethaf.
Mae'r ffigyrau ar gyfer ail wythnos mis Rhagfyr yn dangos bod 81.7% o gleifion wedi cael eu trin o fewn pedair awr - i lawr o 82.6% yr wythnos cyn hynny a 86.6% ddeufis ynghynt.
Mae nifer o fyrddau iechyd Cymru wedi gorfod gohirio llawdriniaethau oherwydd prysurdeb y gaeaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau'r GIG wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf ers rhai misoedd, gyda chefnogaeth £50m o fuddsoddiad gennym ni i'w helpu nhw i gydbwyso gwasanaethau brys a rhai oedd wedi'u cynllunio o flaen llaw.
"Mae sefydliadau lleol eisoes wedi cynllunio i leihau nifer y llawdriniaethau ar ddechrau mis Ionawr fel rhan o'r broses yma."