Llygru afonydd: Galw am reoleiddio wedi 3,000 o achosion
- Cyhoeddwyd
Cafodd bron i 3,000 o achosion llygredd eu cofnodi yn afonydd Cymru dros gyfnod o dair blynedd, ond dim ond 38 o'r rheiny gafodd eu herlyn yn y llysoedd.
Mae'r ystadegau yn dangos i filoedd o bysgod farw o ganlyniad i'r llygredd - gyda 17% o'r digwyddiadau yn cael eu hachosi gan gwmnïau dŵr a 15% o ollyngiadau o weithgareddau amaethyddol.
Cafodd y ffigyrau ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2013 a Chwefror 2016 eu rhyddhau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl cais rhyddid gwybodaeth.
Mae Afonydd Cymru wedi galw am well rheoleiddio, tra bod CNC yn dweud bod y mwyafrif o ddigwyddiadau'n rhai bychan oedd ddim angen eu herlyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod eisiau gweithio gyda'r diwydiant i leihau nifer yr achosion.
Afon Llwchwr yn Sir Gaerfyrddin wnaeth gofnodi'r nifer mwyaf o achosion llygredd, gyda 191.
Afon Ebw yn Sirhywi oedd â'r ail nifer uchaf o achosion gyda 145, tra bod 121 wedi eu cofnodi yn Afon Ogwr ym Mro Morgannwg.
Cafodd camau gorfodaeth eu cymryd mewn 1,195 allan o'r 2,706 o achosion o lygredd.
Ond dywedodd llefarydd nad oedd modd cymryd camau gorfodaeth yn rhan fwyaf o achosion oherwydd prinder tystiolaeth.
O ran yr achosion eraill, cafodd cyngor neu rybudd ffurfiol ei roi er mwyn atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.
38 o'r achosion gafodd eu herlyn yn y llysoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran CNC y byddan nhw'n cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol am lygredd os oes modd dod o hyd i'r ffynhonnell.
Ychwanegodd y byddai'r math o gamau yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos.
"Nid erlyn yn y llysoedd yw'r unig fesur sydd ar gael, ac mewn rhai achosion mae'r dewis gan y sawl sy'n gyfrifol i dalu iawndal ac i wneud addewid i ddatrys y broblem, ac o bosib i wella'r amgylchedd wnaeth ddioddef yn sgil y llygredd," meddai.
"Mewn rhai achosion fe allai hyn olygu gwell canlyniad i'r amgylchedd na fyddai'n bosib drwy erlyn."
'Mater o arian'
Yn ôl prif weithredwr Afonydd Cymru, Dr Stephen Marsh-Smith, mae nifer y pysgod wedi gostwng yn ystod y pum mlynedd diwethaf o ganlyniad uniongyrchol i lygredd.
Mae'n galw am well rheoleiddio ar y diwydiant amaeth er mwyn lleihau'r slyri sy'n gollwng i afonydd, a lleihau achosion o lygru anghyfreithlon.
Dywedodd bod angen trefn tebycach i Loegr, ble "mae'r asiantaeth amgylchedd yno'n ceisio rhagweld lle y gall llygredd ddigwydd, ac wedyn yn cydweithio gyda diwydiant er mwy lleihau ei effaith".
"Mae'n fater o arian ar ddiwedd y dydd, ac os ydym am i CNC wneud rhywbeth am y peth, mae angen i chi fod yn barod i dalu ychydig o arian."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r broblem o lygredd dŵr.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ganfod rhagor o ffynonellau incwm," meddai.