£40,000 i gymuned yn Sir Gaerfyrddin ar ôl i gerosin ollwng

  • Cyhoeddwyd
llygredd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cwmni bod y rhodd yn "arwydd o ddiolch i'r gymuned" am yr anawsterau

Mae pentref lle wnaeth 140,000 litr o gerosin ollwng i afon gan ladd pysgod wedi cael £40,000 gan berchnogion y bibell.

Fe wnaeth y cerosin ollwng i nant Pibwr yn Sir Gaerfyrddin o bibell cwmni Valero, sydd wedi ei gosod o dan ffordd yr A48.

Cafodd y rhan fwyaf ei lanhau, gyda Valero'n dweud bod tir agos nawr yn glir o'r sylwedd, a bod dŵr y nant yn ddiogel i'w yfed.

Dywedodd y cwmni bod yr arian wedi ei roi i gydnabod amynedd pobl leol, ac y byddai'r gymuned yn cael penderfynu sut i'w ddefnyddio.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cwmni bod y rhan fwyaf o'r cerosin wedi ei dynnu o nant Pibwr

Mewn datganiad, dywedodd Mark While o Valero bod y cwmni yn deall y "nifer o anawsterau" wnaeth bobl leol eu hwynebu.

Ychwanegodd bod yr arian yn "arwydd o ddiolch i'r gymuned am eu hamynedd a dealltwriaeth yn ystod y digwyddiad".

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd David Watson o Gyngor Cymuned Llangynnwr: "Roedd y problemau gafodd eu hachosi i drigolion Nantycaws yn ddifrifol ac rydym yn croesawu cydnabyddiaeth y cwmni o hynny drwy'r rhodd yma i'r gymuned."