Gwasael yng Nghonwy i ddeffro’r coed o'u gaeafgwsg
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o bobl wedi bod yn taro sosbenni a drymiau i wneud cymaint o sŵn â phosib mewn digwyddiad yng Nghonwy nos Sadwrn.
Roedd Grŵp Perllan Gymunedol Conwy yn perfformio'r hyn sy'n cael ei alw'n gwasael yn y berllan hynafol ger waliau'r dref.
Cân hynafol yw hi, sy'n cael ei chanu i gyfeiliant sosbenni a drymiau'n cael eu curo.
Mae'n hen draddodiad, a'r nod yw deffro'r coed ffrwythau o'u gaeafgwsg er mwyn sicrhau cnwd da.
Mae'r gwasael yn cael ei berfformio ledled y DU hyd heddiw, ond mae'n fwyaf cyffredin yn ne-orllewin Lloegr.