Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-0 Torquay
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Chris Holroyd sgorio hatric wrth i Wrecsam roi crasfa i Torquay ac atgyfnerthu eu gobeithion o gael dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol.
Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn 10 munud gyda Holroyd yn penio cic gornel Marcus Kelly i'r rhwyd.
Fe wnaeth y Dreigiau ddyblu eu mantais wedi hanner awr trwy beniad arall gan Manny Smith, cyn i Holroyd ychwanegu trydedd cyn hanner amser.
Llwyddodd Holroyd i gwblhau ei hatric o'r smotyn yn y munudau olaf wedi i'r ymwelwyr lawio'r bêl yn y cwrt cosbi.