Nathan Gill: Y Cynulliad yn 'gecrus a negyddol'
- Cyhoeddwyd
Mae ASE UKIP Nathan Gill, wnaeth ymddiswyddo fel AC fis diwethaf, wedi beirniadu gwleidyddiaeth y Cynulliad.
Roedd Mr Gill yn AC annibynnol dros ranbarth Gogledd Cymru cyn iddo ymddiswyddo ym mis Rhagfyr.
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales bod y Cynulliad yn "swigen" sy'n "gecrus a negyddol".
Yn ôl llefarydd ar ran y Cynulliad, bydd y sefydliad "yn parhau i gynrhychioli pobl Cymru, fel y mae wedi gwneud ers ei sefydliad".
Mae Mandy Jones o UKIP wedi cael ei chadarnhau i gymryd lle Mr Gill fel yr aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru.
'Byd bach ei hun'
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn hapus yn y Cynulliad, dywedodd Mr Gill: "Na, dim felly."
Roedd yn un o saith aelod UKIP gafodd eu hethol i'r sefydliad yn etholiad 2016.
Ond yn dilyn dadlau mewnol fe benderfynodd adael y grŵp ychydig fisoedd yn ddiweddarach i fod yn aelod annibynnol.
Dywedodd Mr Gill, sy'n un o bedwar ASE o Gymru yn Senedd Ewrop, bod "gwahaniaeth rhwng gwleidyddiaeth y Cynulliad a gwleidyddiaeth Cymru".
"Fe wnes i ddarganfod bod y Cynulliad yn swigen sydd yn ei fyd bach ei hun, tra bo pawb arall yng Nghymru â blaenoriaethau a phryderon gwahanol," meddai.
Yn ei gyfweliad cyhoeddus cyntaf ers ymddiswyddo fel AC, dywedodd wrth y rhaglen nad oedd yn credu bod cymryd y rôl wedi bod yn gamgymeriad am ei fod wedi ei alluogi i helpu'r bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Gan gyfeirio at ei rôl fel Aelod o Senedd Ewrop, dywedodd mai Brexit yw'r "flaenoriaeth fwyaf i bobl Cymru, ac rydw i eisiau canolbwyntio ar hynny yn y flwyddyn a thri mis nesaf".
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio ymddeol fel gwleidydd yn dilyn hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2017