Pobl feddw'n tarfu ar sioeau yn Venue Cymru Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Venue Cymru yn LlandudnoFfynhonnell y llun, Betty Longbottom/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Venue Cymru yn Llandudno yn gyrchfan boblogaidd

Mae cwynion fod rhai yfwyr wedi tarfu ar berfformiadau yn Venue Cymru yn Llandudno wedi arwain at dynhau rheolau diogelwch.

Ers Mawrth 2015 mae Venue Cymru wedi debyn 43 o gwynion am fynychwyr swnllyd a oedd o dan ddylanwad alcohol.

Roedd y rhan fwyaf o'r cwynion wedi'u gwneud wedi sioe The Full Monty.

Bydd y mater yn cael ei drafod gan Cyngor Conwy ddydd Llun fel rhan o'r adolygiad sy'n trafod cwynion.

Mwy o staff diogelwch

Dywedodd llefarydd ar ran Venue Cymru: "Rydyn yn ystyried y mater o ddifrif gan fod ymddygiad o'r fath yn gallu amharu ar fwynhad eraill sydd wedi dod i'r theatr.

"Fel ymateb i'r achosion, rydyn ni wedi cynyddu nifer y staff diogelwch sydd ar ddyletswydd mewn rhai sioeau."

Derbyniodd y theatr 19 cwyn yn ymwneud ag alcohol yn 2015/16.

Er i'r nifer ostwng i wyth y flwyddyn ganlynol, mae'r nifer ers Mawrth 2017 yn 16.

Bellach mae staff yn archwilio mwy o fagiau gan eu bod yn credu bod pobl yn dod ag alcohol eu hunain.

"Rydyn yn parhau i wrthod pobl os y credwn eu bod wedi cael gormod o alcohol ac ry'n yn gofyn i bobl adael os yw eu hymddygiad yn annerbyniol," ychwanegodd llefarydd.